Posted on

Llywodraeth Cymru yn cefnogi ynni adnewyddadwy – gweld ni yn y ffilm!

Sylwch ar glip o’n tyrbin yn cael ei godi yn y ffilm fach wych hon gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru – rydym yn falch o fod yn rhan o’u hymdrechion.

Team Wales – Achieving net zero through collaboration #WalesClimateWeek pic.twitter.com/PdgYIoJbuj

— @_energyservice (@_energyservice) November 6, 2020

https://twitter.com/_energyservice/status/1324659812739780614

Bydd ‘Wythnos Hinsawdd Cymru’ yn nodi dyddiad cynhadledd wreiddiol y COP26, a gynhaliwyd gan y DU, oni bai ei fod wedi’i ohirio oherwydd y pandemig. Maent wedi dechrau cyfri lawr nes dyddiad newydd COP26 ((Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd) yng Nglasgow mewn blwyddyn, a Chynllun Cyflawni nesaf (LCDP2) y Llywodraeth Cymru.

Mae’r Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth technegol, masnachol a hefyd gymorth â chaffael am ddim er mwyn helpu pobl i arbed ynni a datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy. Mae’r gwasanaeth ynni yn helpu â gwaith cynllunio ariannol ac â chyllid, er enghraifft benthyciadau di-log a grantiau.

Fel y gallwch weld o’r ffilm, maen nhw wedi bod yn brysur ond yn ymwybodol bod llawer o waith i’w wneud o hyd.

Os ydy’r ffilm wedi’ch ysbrydoli am ynni adnewyddadwy cymunedol, ystyriwch brynu cyfranddaliadau yn ein tyrbin pan fydd ein cynnig nesaf yn lansio yn y gwanwyn. Gallwch gofrestru eich diddordeb trwy dderbyn ein cylchlythyr yn y blwch ar y dde, a byddwn yn rhoi gwybod ichi pan ddaw’r amser.

Posted on

GCE yn rhoddi arian i Neuadd Fictoria, Llambed

Rydym yn falch ein bod wedi gallu rhoi £2000 i Neuadd Fictoria yn Llambed, i gefnogi’r ganolfan gymunedol leol hanfodol hon.

Mae’r neuadd yn ganolbwynt ac yn adnodd pwysig i’r gymuned, ac mae’n teimlo effaith ariannol o Covid-19, wrth i grwpiau a digwyddiadau gael eu canslo neu eu gohirio. Rydym yn falch o fod mewn sefyllfa i’w helpu gyda’u costau cyffredinol ar yr adeg hon. Dyma’r union fath o gymorth lleol yr oeddem wedi gobeithio y byddai cronfa gymunedol ein tyrbin yn gallu ei ddarparu.

Cadwch lygad ar wefan neu dudalen Facebook Neuadd Fictoria i gael manylion am ailagor.

Os hoffech chi ddod yn fuddsoddwr a dweud eich dweud yn nosbarthiad y gronfa gymunedol yn y dyfodol, mae newyddion ar ein cynnig cyfranddaliadau nesaf yn dod yn fuan.

Posted on

Y tyrbin yn pasio miliwn o gilowat-oriau!

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi fod ein tyrbin wedi cynhyrchu ychydig dros 1,000,000 kWh ers ei gomisiynu ym mis Hydref 2019. Roedd Chwefror a Mawrth yn fisoedd arbennig o dda oherwydd stormydd Ciara, Dennis a Jorge, gyda’r tyrbin yn cynhyrchu dros 440,000 kWh mewn cyfnod o ddau fis. Mae’r cynhyrchiad pŵer yn Ebrill a Mai wedi bod yn is na’r disgwyl oherwydd y cyfnod estynedig o wyntoedd isel ac amodau heulog.

Gallwch ddarllen mwy am y cyfnod torri-record yma, gan Bristol Energy: https://www.current-news.co.uk/news/storms-sent-bristol-energys-renewable-generation-soaring-in-february Rydym yn gwerthu ein trydan iddyn nhw ar hyn o bryd.

Posted on

Newyddion ar ein cynnig cyfranddaliadau yn dod yn fuan

Nid ydym ni yng Ngrannell wedi bod yn rhydd rhag aflonyddwch byd-eang y pandemig Covid-19. Roeddem yn bwriadu lansio ein hail gynnig cyfranddaliadau ym mis Mai, gyda chyfleoedd newydd i fuddsoddwyr ddod yn gydberchnogion ein tyrbin gwynt, ond gohiriwyd y lansiad oherwydd y pandemig.

Byddwn yn gwneud cyhoeddiad yn fuan iawn am y cyfle nesaf i fuddsoddi, felly os nad ydych chi wedi eisoes, cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Diolch byth bod y tyrbin ei hun, a adeiladwyd ym mis Hydref y llynedd, wedi bod yn troi trwy gydol y cyfnod hwn o aflonyddwch, ac rydym yn gyffrous ein bod wedi pasio’r marc miliwn-cilowat-awr yn ddiweddar!

Posted on

Swyddi gwag i Gyfarwyddwyr gwirfoddol – ymunwch â ni!

Allech chi fod yn un o Gyfarwyddwyr Ynni Cymunedol Grannell?

Rydym ni’n chwilio am gyfarwyddwyr sydd ag amrywiaeth o gefndiroedd, profiadau a setiau sgiliau i ymuno â ni. Fyddech chi’n barod i roi o’ch amser a’ch ymroddiad? Ydych chi’n rhannu ein hangerdd ynghylch ynni adnewyddadwy a phrosiectau cymunedol?

Ein cenhadaeth yw helpu canolbarth Cymru i ddatblygu dyfodol ynni glân, lliniaru’r newid yn yr hinsawdd trwy osod dulliau o gynhyrchu ynni adnewyddadwy, a gwneud hynny mewn modd teg trwy ledaenu’r berchnogaeth a’r manteision ar draws y gymuned, yn hytrach na’u crynhoi yn nwylo nifer bychan. Y llynedd gosodwyd tyrbin gwynt 500Kw yn lleol, ac mae bellach yn cynhyrchu ynni glân, gwyrdd, sy’n eiddo i’r gymuned, gyda phopeth sy’n weddill yn cynnal ein cymuned leol.

Rydym ni’n cwrdd dair neu bedair gwaith y flwyddyn, ond yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r hwyr ar ffurf galwadau cynadledda. Ar ben hynny, gall cyfarwyddwyr fod yn anffurfiol gyfrifol am gadw llygad ar feysydd lle mae ganddynt arbenigedd.

Mae yna restr o’r cyfarwyddwyr cyfredol yma, mwy ar y tyrbin yma, a’r ddogfen cyfranddaliad blaenorol yma.

Rydym ni’n arbennig o awyddus i recriwtio pobl sydd â phrofiad cymunedol, ynni adnewyddadwy, cyfreithiol, ariannol, a busnes a marchnata, ond mae rolau eraill ar gael yn ogystal.

Hefyd gallwch anfon CV, yn cynnwys enwau dau ganolwr, a gair byr yn egluro eich diddordeb, at y Cyfarwyddwyr yn info@grannellcommunity.coop.org

Neu drwy’r post at Ynni Cymunedol Grannell, Pandy, Cribyn, Llanbedr-pont-steffan SA48 7QH

Posted on

Mae’r gwaith adeiladu wedi’i gwblhau!

Bellach mae ein tyrbin gwynt cymunedol wedi cael ei gomisiynu ac mae’n cynhyrchu pŵer.

Diolch i bawb sydd wedi’n cefnogi ni ar y daith hon – o’n buddsoddwyr i’r timau gwych a fu’n rhan o’r gwaith adeiladu, a’r holl bobl leol ac aelodau a ddaeth draw i weld y tyrbin yn cael ei godi.

Roedd codi’r tyrbin ar Ffrwd Farm yn gamp beirianneg aruthrol a ddigwyddodd dros gyfnod o bum niwrnod ddechrau mis Hydref mewn tywydd heriol sy’n nodweddiadol o’r hydref yng Nghymru. Comisiynwyd y tyrbin ar 11eg Hydref ymhell cyn dyddiad cau’r Tariff Cyflenwi Trydan, sef 31ain Rhagfyr 2019 – sy’n golygu bod hwn yn un o’r prosiectau gwynt cymunedol olaf yn y Deyrnas Unedig i gael budd o’r cymhorthdal hwn gan y llywodraeth.

Gallwch weld lluniau o’r broses adeiladu gyfan yn ein horiel luniau.

Roedd digon o waith i’w wneud hefyd yn yr wythnosau blaenorol er mwyn paratoi’r safle cyn gosod y tyrbin. Gosodwyd sylfeini a thywallt y sail goncrid. Cwmni Green Cat o’r Alban oedd yn gyfrifol am y gwaith adeiladu.

Cafodd cydrannau mawr a thrwm iawn y tyrbin eu cludo yma o’r Iseldiroedd (lle bu gynt yn cynhyrchu pŵer ar fferm wynt sydd bellach yn cynhyrchu ynni â thyrbinau mwy o faint) ar bedair llong fferi, gan gyrraedd Harwich a Purfleet. Gwnaed saith taith ffordd gan gerbydau nwyddau trwm i gludo’r cydrannau i Ffrwd Farm, a rhan olaf y daith oedd lôn fferm y bu’n rhaid ei lledu, ei chryfhau ac ychwanegu 2km ati – gwaith enfawr a gyflawnwyd yn wych gan y cwmni lleol, D.G. Jones a’i Feibion.

Ar y safle, gosodwyd y cydrannau at ei gilydd gan dîm o beirianwyr cwmni F&B Windpower o’r Iseldiroedd, gan nad yw’r wybodaeth arbenigol hon ar gael yn y Deyrnas Unedig yn anffodus. Darparwyd craeniau i symud y gwahanol rannau i’w lle gan gwmni o Gymru, sef Davies Crane Hire o Gaerfyrddin.

Ar 5ed Hydref, gollyngwyd llafnau’r tyrbin i’w lle yn barod ar gyfer Cychwyn y Tyrbin, a oedd yn ddiwrnod cyffrous i bawb, yn enwedig i’r rhai a fu’n rhan o’r prosiect o’r dechrau. Daeth llawer o bobl, gan gynnwys cyfranddalwyr a’r gymuned leol, i wylio camau olaf y gwaith adeiladu.

Ers hynny, cafwyd ychydig o broblemau cychwynnol oedd yn golygu bod rhaid i’r tyrbin fod all-lein am gyfnod byr er mwyn eu datrys. Roeddem wedi rhagweld y problemau hyn, sy’n nodweddiadol mewn prosiectau o’r fath; mae popeth yn gweithio fel y dylai bellach.

Mae angen diolch i sawl un arall: i’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni am helpu i gael hyd i grantiau a benthyciadau, i Sharenergy am eu harweiniad a’u cymorth gyda’r cynnig cyfranddaliadau. Diolch i Second Wind Energy am gael hyd i’r tyrbin a goruchwylio’r gwaith o’i ddatgymalu a’i storio; byddan nhw’n parhau i’n helpu o ran gweithredu a chynnal a chadw. Diolch i Eddie o gwmni Bosman Inspecties a gysylltodd y tyrbin ar ôl ei godi a datrys y problemau cychwynnol. Rheolwyr y prosiect oedd Green Cat Renewables a’n contractwyr ar gyfer gweddill y gwaith oedd WindCare.

Posted on

Y Tyrbin – ffeithiau a ffigurau

  • Tyrbin Enercon E48 wedi’i adnewyddu, o’r Iseldiroedd, yw’r un sydd gennym ni.
  • Mae’n sefyll ar ben tŵr 50m ac mae rhychwant o 48 metr i’r llafnau.
  • Hwn yw’r tyrbin gwynt mwyaf sy’n eiddo i’r gymuned yng Ngheredigion.
  • Mae’n sefyll ar ben bryn gwyntog yn Ffrwd Farm, Llanwnnen, Ceredigion.
  • Mae ganddo gapasiti o 800kW, ond bydd yn cynhyrchu 500kW er mwyn cydymffurfio â gofynion y grid a’r Tariff Cyflenwi Trydan.
  • Amcangyfrifir y bydd y tyrbin yn cynhyrchu 1,743,000 kW o drydan bob blwyddyn – sy’n ddigon i gyflenwi tua 450 o gartrefi nodweddiadol neu hanner cymuned Llanfihangel Ystrad.
  • Bydd yn arbed mwy na 600 tunnell o CO2 bob blwyddyn, felly bydd ein cymuned yn cyfrannu at ddyfodol sero-net y Deyrnas Unedig.
  • Mae’n cysylltu â’r grid trwy is-orsaf ar y safle a chebl tanddaear sy’n cario 11,000 o foltiau.
  • Mae’r tyrbin yn pwyso tua 100 tunnell.
  • Defnyddiwyd 400 tunnell o goncrid a dur i greu’r sail.
  • Cludwyd y cydrannau i’r safle ar dair llong fferi a saith cerbyd nwyddau trwm.
  • Cymerodd bum niwrnod i godi’r tyrbin ar ôl paratoi’r safle.
  • Oes ddisgwyliedig y tyrbin yw 20 mlynedd.
  • Mae’n un o’r tyrbinau gwynt olaf yn y Deyrnas Unedig i dderbyn cymorth trwy gynllun Tariff Cyflenwi Trydan y llywodraeth.
  • Mae’r 129 sydd wedi buddsoddi yn Grannell Community Energy yn gyd-berchenogion ar y tyrbin.
  • Bydd y gronfa budd cymunedol yn dosbarthu o leiaf £5,000 y flwyddyn i gefnogi achosion da lleol.
Posted on

Paratoi ar gyfer Cynnig Cyfranddaliadau yn y gwanwyn

Nawr bod y tyrbin wedi’i gomisiynu’n llwyddiannus, bod ambell broblem gychwynnol wedi’u datrys a bod y tyrbin yn cynhyrchu pŵer yn effeithiol ac yn effeithlon, mae’r Bwrdd yn troi ein sylw at y Cynnig Cyfranddaliadau nesaf.

Rydyn ni’n disgwyl ei lansio yng ngwanwyn 2020. Bydd hynny’n rhoi sawl mis o ddata cynhyrchu i ni er mwyn i ni allu sicrhau bod y prosiect yn perfformio’n unol â’r targed neu’n rhagori arno.

Talwyd am y costau adeiladu trwy gyfuniad o gyllid grant gan Lywodraeth Cymru; derbyniadau ein cynnig cyfranddaliadau cyntaf yn 2018, a ddenodd 129 o unigolion i fuddsoddi a chodi £368,406; a benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru er mwyn gwarantu’r balans. Bydd yr ail gynnig cyfranddaliadau yn fodd i ni ad-dalu rhywfaint o’r ddyled, a fydd yn gwneud y tyrbin yn fwy proffidiol ac felly’n cynyddu maint y gronfa budd cymunedol.

Ers lansio ein cynnig cyfranddaliadau diwethaf ym Mehefin 2018, bu newid amlwg a sylweddol yn ymwybyddiaeth y cyhoedd o Argyfwng yr Hinsawdd a’r angen am ddadgarboneiddio ein cyflenwadau trydan.

Byddwn ni’n rhoi ail gyfle i bobl leol a chefnogwyr ynni cymunedol brynu cyfran mewn prosiect sy’n taclo’r problemau hyn yn ddiwyro, heb orfod wynebu’r risgiau adeiladu. Caiff buddsoddwyr presennol gynyddu nifer eu cyfranddaliadau hefyd os byddan nhw’n dymuno. Diolch i bobl fel Greta Thunberg, Chwyldro Difodiant (XR) a Syr David Attenborough (i enwi rhai yn unig!) mae awydd cryf ymhlith pobl i ddefnyddio’u harian i wneud gwahaniaeth cadarnahaol. Rydyn ni’n disgwyl felly y bydd llawer o ddiddordeb yn yr ail gynnig.

Dewch yn ôl yn y man i gael gwybodaeth am y cynnig cyfranddaliadau newydd. Gallwch fynegi diddordeb heb ymrwymo i ddim.

Posted on

Llai nag wythnos i fynd! Mae’r cynnig yn cau ddydd Gwener 14eg Rhagfyr…

Ychydig ddyddiau’n unig sydd ar ôl i fuddsoddi yn un o’r prosiectau tyrbin gwynt olaf a arweinir gan y gymuned yng Nghymru, a’r un mwyaf yng Ngheredigion.

Caiff pobl sy’n byw yng Ngheredigion ymuno am gyn lleied â £100 y gyfran, a chaiff pobl o’r tu allan i’r ardal ymuno am £250 y gyfran. Buddsoddwch rhwng £100 a £100,000 a chewch dderbyn elw o ryw 5%, helpu i ymladd y newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd a chael dweud eich barn ar sut mae Grannell Community Energy yn gweithio.

Bydd y tyrbin yn cynhyrchu tua 1700 MWh o drydan y flwyddyn – sy’n ddigon ar gyfer rhyw 450 o gartrefi – ac yn arbed 613 tunnell o CO2.

Bydd eich aelodaeth yn gwneud gwahaniaeth i’n cymuned hefyd, gan ein bod ni’n gobeithio cyfrannu o leiaf £5000 y flwyddyn dros 20 mlynedd (yn amodol ar berfformiad y tyrbin) i gronfa gymunedol ar gyfer Llanwnnen, Llanfihangel Ystrad a Llanbedr Pont Steffan. Bydd y bwrdd yn gofyn i’r cymunedau lleol awgrymu sut dylai’r arian yn y gronfa hon gael ei ddyrannu a’i wario.