Hanes

Hanes

Ffurfiwyd Ynni Cymunedol Grannell yn 2016. Mae’r gymdeithas budd cymunedol wedi’i henwi ar ôl yr afon sy’n rhedeg trwy bentref Cribyn, ger Llanbedr Pont Steffan, yn agos at safle’r tyrbin a chartref rhai o’n gwirfoddolwyr.
Daeth ein grŵp ynghyd i helpu i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer tyrbin gwynt bach ar fferm y teulu Evans, sydd wedi bod yn ffermio gwartheg a defaid yn yr ardal ers cenedlaethau. Sefydlodd y grŵp gymdeithas budd cymunedol a fyddai’n cymryd perchnogaeth o’r tyrbin, gan gynhyrchu gwarged i gefnogi gwasanaethau lleol yn ogystal â mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a gwneud yr economi wledig yn fwy gwydn.
Ar ôl i’r prosiect gael caniatâd cynllunio yn 2017, dechreuwyd codi’r arian i adeiladu a chysylltu’r tyrbin â’r grid. Yn 2018, lansiwyd ein cynnig cyfranddaliadau cymunedol cyntaf drwy Sharenergy. Cododd hyn £368,406, a oedd yn ganlyniad da ar adeg pan oedd llawer o bethau eraill yn tynnu sylw’r cyhoedd, yn wleidyddol ac yn economaidd. Ffurfiodd benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru, ynghyd â chyllid grant gan Lywodraeth Cymru, weddill y swm yr oedd ei angen.
Cafwyd hyd i dyrbin gwynt Enercon E48 ail-law da yn yr Iseldiroedd. Yna, aed ati i sicrhau achrediad ymlaen llaw ar gyfer y Tariff Cyflenwi Trydan (FiT) gydag Ofgem a negodi Cytundeb Prynu Pŵer ar gyfer y trydan – ac fe sicrhaodd hyn i gyd hyfywedd y prosiect.
Erbyn mis Gorffennaf 2019, roedden ni’n barod i ddechrau ar y gwaith adeiladu, gan wynebu dyddiad cau eithaf tyn gan Ofgem i gymhwyso ar gyfer yr achrediadau FiT olaf. Bwriodd ein contractwyr ati’n wych gyda’r amserlen heriol a thywydd nodweddiadol Cymru, ac o fewn wythnos ym mis Hydref, fe godwyd cydrannau’r tyrbin i’w lle.
Ers i’r tyrbin gael ei gomisiynu, mae wedi cynhyrchu dros 5 miliwn kWh o drydan.
Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu rhagor:
