Amdanom ni

Amdanom ni

Mae Ynni Cymunedol Grannell, a ffurfiwyd yn 2016, yn gymdeithas budd cymunedol sydd wedi’i lleoli ger Llanbedr Pont Steffan yng ngorllewin Cymru. Rydyn ni’n rhedeg tyrbin gwynt Enercon E48 sydd wedi’i adnewyddu ac yn eiddo i’r gymuned. Ein tyrbin ni yw’r tyrbin gwynt mwyaf yn nwylo’r gymuned yng Ngheredigion.
Ein cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw helpu canolbarth Cymru i ddatblygu dyfodol ynni glân; lliniaru newid hinsawdd trwy osod systemau cynhyrchu ynni adnewyddadwy; a gwneud hyn mewn ffordd deg a democrataidd trwy ledaenu’r berchnogaeth a’r buddion ledled y gymuned yn hytrach na’u crynhoi yn nwylo’r ychydig.
Mae Ynni Cymunedol Grannell yn bodoli i ddatblygu, annog a hyrwyddo prosiectau ynni adnewyddadwy a llwybrau eraill tuag at ddatblygu economi leol gadarn, gynaliadwy.
Mae Ynni Cymunedol Grannell yn Gymdeithas Budd Cymunedol. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw un (16 oed a hŷn) ddod yn aelod trwy brynu cyfranddaliadau pan fydd cyfle i brynu, ac felly ranberchnogi tyrbin gwynt.
Ein strwythur
Fel Cymdeithas Budd Cymunedol, ein haelodau hefyd yw ein cyfranddalwyr. Mae cyfranddaliadau’n costio £1 yr un, ac mae aelodau’n ennill llog ar eu buddsoddiadau (nid difidendau). Waeth beth yw nifer y cyfranddaliadau a gaiff eu dal, mae gan bob aelod un bleidlais, gan sicrhau cyfranogiad democrataidd.
Rheolau a Llywodraethu
Caiff Ynni Cymunedol Grannell ei reoli a’i lywodraethu gan grŵp o gyfarwyddwyr gwirfoddol yn unol â set o reolau sydd wedi’u cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae ein rheolau ar gael i’w lawrlwytho yma.
Cymdeithas Budd Cymunedol
Nod Ynni Cymunedol Grannell yw cynhyrchu a gwerthu ynni adnewyddadwy a defnyddio ei warged (surplus) er budd y gymuned.
Caiff Ynni Cymunedol Grannell ei redeg fel Cymdeithas Budd Cymunedol. Mae hon yn fath o Gymdeithas Gofrestredig sydd wedi’i chofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Mae gan Gymdeithas Gofrestredig aelodau, a bwrdd a gaiff ei ethol bob blwyddyn mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gan yr aelodau.
Ein haelodau fydd pawb sy’n prynu cyfranddaliadau yn ein cymdeithas.
Caiff y gymdeithas ei rhedeg yn ôl set o reolau, sydd wedi’u cymeradwyo a’u cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae’r rheolau hyn yn cwmpasu materion fel pwy all fod yn aelod; sut caiff cyfarfodydd bwrdd a chyfarfodydd cyffredinol eu cynnal; pa gworymau sy’n angenrheidiol; faint o gyfarwyddwyr ddylai fod ar y bwrdd, ac yn y blaen.
Ein bwrdd
Mae gennym bum cyfarwyddwr ar ein bwrdd ar hyn o bryd. Ym mhob Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, bydd 2 Gyfarwyddwr yn ymddiswyddo a bydd angen eu hailethol gan yr aelodau, a gwahoddir unrhyw un o’r aelodau i sefyll fel Cyfarwyddwr newydd.
Mae’r bwrdd presennol fel a ganlyn:

Guy Hopwood (Cadeirydd)
Mae Guy Hopwood yn ymgynghorydd ynni adnewyddadwy, sydd wedi byw yng Ngheredigion ers 1972.
Mae Guy wedi bod yn rhan o ddatblygu amrywiaeth o gynlluniau ynni adnewyddadwy ers 2010, gan gynnwys tyrbin gwynt 500kW yng Ngheredigion ac un arall yn Sir Gâr, ac mae hefyd yn fuddsoddwr mewn sawl prosiect gwynt a solar ffotofoltäig cymunedol yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae Guy yn gweithio i YnNI Teg (YT), datblygydd ynni adnewyddadwy cymunedol sydd â’i dyrbin gwynt 900kW ei hun yng Nghaerfyrddin yn ogystal â system FF solar a gwblhawyd yn ddiweddar.
Mae’n gyfrifol am ddatblygu prosiectau newydd ar gyfer YT yn ogystal â darparu cefnogaeth i sefydliadau Ynni Cymunedol eraill ledled Cymru. Mae YnNi Teg yn gweithio ar hyn o bryd ar ddatblygu ail dyrbin gwynt 900kW yng Ngheredigion, a ddylai fod ar waith erbyn diwedd 2025. Mae Guy hefyd yn ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth Shared Earth sydd wedi’i lleoli yn Fferm Denmarc ger Llanbedr Pont Steffan.

Lindsay Thomas (Trysorydd)
Symudodd Lindsay Thomas i Gymru dros 40 mlynedd yn ôl, a ganwyd a magwyd ei phedair merch yma, gan fynychu’r ysgolion lleol a mynd ymlaen i brifysgolion.
Mae Lindsay yn byw ger Cribyn gyda’i gŵr Jason mewn tŷ hir traddodiadol Cymreig, ar 6 erw, sydd yn brosiect parhaus ac angerdd mae’r ddau’n ei rannu. Maen nhw wedi adnewyddu’r bwthyn, ysguboriau ac adeiladau allanol, wedi plannu coed a gosod FF solar a phaneli thermol solar. Mae Lindsay hefyd yn mwynhau cadw gwenyn, cwiltio a darganfod rhannau llai adnabyddus y sir trwy deithiau cerdded gwledig gyda grŵp lleol.
Yn flaenorol, roedd hi’n rhedeg busnes bach cyhoeddi a gwasg yng Ngheredigion, ond mae hi bellach wedi ymddeol yn rhannol ac yn gyfarwyddwr sefydlol GCE. Mae hi’n benderfynol o wneud i hyn weithio, er lles yr amgylchedd a’r gymuned, ac i helpu i ariannu mentrau amgylcheddol lleol.
Mae hi eisiau gweld mwy o brosiectau fel hyn yn dwyn ffrwyth, ynni a gynhyrchir yn lleol ar gyfer cymunedau lleol, gan ddiogelu adnoddau gwerthfawr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan gynnwys ei hwyrion.
Ar ôl byw’n syml ac oddi ar y grid am flynyddoedd lawer, mae hi bellach yn mwynhau adfer a gwella hen adeiladau i sicrhau cydbwysedd rhwng harddwch y traddodiadol a’r effeithlonrwydd ynni sy’n hanfodol i’n planed.

Jane O’Brien
Mae Jane yn Rheolwr Datblygu i YnNI Teg (YT – ers Hydref ‘21), gan nodicyfleoedd i gyflawni prosiectau ynni cymunedol sydd dan ddatblygiad. Mae ganddi MSc (Peirianneg) mewn Rheoli a Chadwraeth Ynni, ac wedi gweithio yn y sector cynaliadwyedd ers dros 25 mlynedd.
Mae ganddi brofiad o gyflawni amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys mentrau adnewyddadwy, a darparu gwasanaethau i awdurdodau lleol a gwasanaethau’r llywodraeth, sectorau masnachol a chymunedol. Mae ei sgiliau’n cynnwys troi syniadau’n brosiectau realistig, ac am dros 10 mlynedd bu’n gweithio i RENEW Wales gan gynorthwyo dros 35 o brosiectau, yn amrywio o ddatblygu tyrbinau gwynt, i dyfu bwyd, iechyd a lles.
Hefyd yn gyfarwyddwr gwirfoddol Community Energy Pembrokeshire, arweiniodd dîm bach i gyflawni tyrbin gwynt 800kW yn Ne Sir Benfro. Yn ei barn hi, dull cyfannol o ymdrin â chynlluniau ynni yw’r ffordd ymlaen, gan gynnwys rheoli’r grid, storfa, technoleg, datblygiadau trafnidiaeth (ac yn hanfodol i bopeth, effeithlonrwydd ynni).
Mae Jane a’i gŵr Martin yn berchen ar fusnes eco-dwristiaeth bach, North Lodge Eco Holidays, sy’n cynnig gwersylla traddodiadol ac unedau hynod oddi ar y grid gan gynnwys lori geffylau wedi’i haddasu. Mae hwn wedi’i leoli yn harddwch Sir Benfro, yn agos at Aberteifi ac ardal Dyffryn Teifi.

Brian Mark
Mae Brian yn byw oddi ar y grid yn Llandudoch ger Aberteifi, ac mae’n beiriannydd gwasanaethau adeiladau masnachol wedi ymddeol, ar ôl bod yn bartner sefydlol yn Fulcrum Consulting: oedd, ar un adeg, yn ymgynghoriaeth peirianneg gynaliadwy arbenigol, gyda 200+ o beirianwyr.
Mae Brian yn arbenigwr ar adeiladau ynni isel a dylunio dinasoedd gan gynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol ac integredig ac, oherwydd hynny, gofynnwyd iddo wasanaethu ar y Bwrdd Ymgynghorol Ynni Adnewyddadwy, gan gynghori’r llywodraeth ganolog ar y dull gorau i gyflawni pob targed ynni adnewyddadwy cenedlaethol, Kyoto a’r Undeb Ewropeaidd.
Mae Brian yn credu’n gryf ym manteision perchnogaeth gymunedol ar asedau, gan gynnwys cynhyrchu ynni, ac mae ganddo brofiad lleol o gyflawni cynlluniau perchnogaeth gymunedol o’r fath yn llwyddiannus fel cyfarwyddwr 4CG am sawl blwyddyn (sef y sefydliad datblygu cymunedol hynod lwyddiannus sydd wedi’i leoli yn Aberteifi).

Martin Roger
Graddiodd Martin Roger o’r brifysgol yng nghanol y 70au gyda gradd mewn ffiseg ac mae wedi gweithio ers hynny fel peiriannydd dylunio mewn cwmnïau sy’n arbenigo mewn systemau electronig cyfathrebu.
Mae ganddo ddiddordeb mewn datblygiad cymunedol ac fe sefydlodd elusen i gefnogi addysg plant yng Nghanolbarth America gan bwysleisio traddodiadau diwylliannol ac artistig. Mae gan yr elusen ei chanolfan ei hun bellach sy’n defnyddio methodoleg Montessori yn ei haddysgu.
Mae ei ddiddordebau hefyd yn ymestyn i’r sector ynni, lle mae’n awyddus i gefnogi mentrau sy’n grymuso cymunedau ar lefel lleol. Mae wedi bod yn weithgar yn y maes hwn ers sawl blwyddyn fel buddsoddwr a hefyd fel cyfarwyddwr cymdeithas ynni cymunedol sy’n rhedeg tri thyrbin gwynt ar Ynys Lewis.
Mae Martin hefyd yn canolbwyntio ar ei ffordd o fyw ei hun, o ystyried yr argyfwng newid hinsawdd yr ydym yn byw drwyddo, ac mae’n ceisio lleihau ei ôl troed ecolegol trwy redeg car trydan, dibynnu llai ar y grid trwy osod systemau solar ffotofoltäig a solar thermol a thrwy ynysu ei gartref. Mae Martin yn byw yn Sir Buckingham ac yn mwynhau cerdded ym Mryniau Chiltern yn ei amser rhydd.

Julia Lim
Symudodd Julia i fyw gerllaw Llanbedr Pont Steffan yn 2013 ac mae’n byw ar dyddyn bach 2.5 erw gyda’i gŵr, lle maen nhw’n gweithio i leihau eu hôl troed ar y tir trwy ailddefnyddio dŵr cymaint â phosib, a chasglu dŵr glaw ar gyfer yr ardd.
Maen nhw’n tyfu bwyd iddyn nhw eu hunain a’r gymuned heb blaladdwyr, gan annog bywyd gwyllt ac yn dilyn egwyddorion parafaethu. Fe wnaethon nhw ynysu eu cartref, tŷ pecyn Sgandinafaidd, yn fuan ar ôl symud, ac yn ei gynhesu gydag un llosgwr coed, ac maen nhw wedi plannu helyg biomas ar ei gyfer.
Mae hi’n ddysgwr Cymraeg brwdfrydig ac yn mwynhau’r cyfleoedd niferus yn yr ardal i ymarfer a gwella’i Chymraeg.
Prynodd Julia gyfranddaliadau yn y tyrbin, ac mae’n gefnogwr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir lleol, dan berchnogaeth leol, fel un o’r ffyrdd mwyaf democrataidd o fynd i’r afael â heriau newid hinsawdd.
Cyn-gyfarwyddwyr sefydlol
Ni fyddai Grannell Community Energy wedi bod yn bosibl heb ffydd, arbenigedd ac ymrwymiad 2 gyn-gyfarwyddwr. Mae’r amser ac ymroddiad a roddasant i’r prosiect hwn wedi bod yn amhrisiadwy.
Leila Kierch
Mae Leila yn gefnogwr hirdymor o gynhyrchu ynni adnewyddadwy a chefnogi cymunedau gwledig. Symudodd i Gymru dros 20 mlynedd yn ôl i astudio a magu ei theulu yma, yn ogystal â cheisio dysgu’r iaith a bod yn aelod defnyddiol o’r gymuned.
Yn ei gyrfa broffesiynol mae hi wedi gweithio yn y sector ynni gwynt, mewn ynni cymunedol, ac wedi rheoli elusen leol. Daeth â chyfoeth o brofiad i’r bwrdd a chwaraeodd ran fawr yn sicrhau llwyddiant y prosiect.
Elly Foster
Yn wreiddiol o’r Iseldiroedd, mae Elly wedi byw yn y DU ers dros 40 mlynedd, llawer ohonynt wedi’u treulio yng Ngorllewin Cymru. Mae hi wedi dysgu Cymraeg ac yn gobeithio bod yn rhugl un diwrnod.
Mae Elly yn angerddol am ynni adnewyddadwy. Mae hi wedi dadlau dros gydlynant cymunedol trwy lawer o ymgyrchoedd, er enghraifft am wasanaethau bysiau lleol. Mae hi’n diwtor preifat llwyddiannus, ac mae’n parhau i obeithio y bydd pobl ifanc yr ardal hon yn etifeddu cymuned fywiog a gwydn.
Diolch hefyd i…
Mae prosiect cymunedol llwyddiannus fel hwn yn dibynnu nid yn unig ar gefnogaeth, ewyllys da ac egni ei gymuned, aelodau’r gymdeithas a gwirfoddolwyr ond hefyd ar lu o ymgynghorwyr a chontractwyr proffesiynol.
Hoffem ddiolch i’r canlynol, am eu cymorth amhrisiadwy yn ystod y gwaith codi arian ac adeiladu – ni allem fod wedi’i wneud hebddoch chi. Yn benodol, diolch i:
Ein Partneriaid

Banc Datblygu Cymru
Mae benthyciadau wedi’u cael gan Fanc Datblygu Cymru sy’n caniatáu i ni fwrw ymlaen cyn derbyn y gost adeiladu lawn oddi wrth y cynnig cyfranddaliadau.

Ynni Lleol
Mae cynllun GCE wedi derbyn cefnogaeth, cyllid benthyciadau a chyllid grant gan Lywodraeth Cymru drwy ei gwasanaeth Ynni Lleol. Mae gwasanaeth Ynni Lleol Llywodraeth Cymru yn darparu cefnogaeth ariannol a thechnegol i helpu mentrau cymdeithasol a busnesau bach a chanolig ledled Cymru i ddatblygu eu cynlluniau ynni adnewyddadwy eu hunain.
Diolchwn yn arbennig i Andy Rowland am gymorth y tu hwnt i’r gofyn.

Cydweithfa Sharenergy
Mae Sharenergy yn helpu grwpiau cymunedol ledled y DU i sefydlu ac i fod yn berchen ar eu generaduron ynni adnewyddadwy eu hunain. Mae Sharenergy wedi cefnogi mwy na 40 o gynigion cyfranddaliadau cymunedol llwyddiannus ac yn darparu gwasanaethau gweinyddol i dros 30 o grwpiau ynni cymunedol.
Rydym yn ddiolchgar hefyd i’r canlynol am eu cefnogaeth yn y camau niferus ar hyd y ffordd i’r gosodiad:
- Seren Energy – Caffaelwyr safleoedd tyrbinau gwynt. Gyda diolch arbennig i Steve Hack.
- Our Footprints – Peiriannydd y Perchenogion a Rheolwr Prosiect.
- naet-Co Ltd – Cefnogaeth tendro a chyngor risg i’r bwrdd.
- Second Wind – Cefnogaeth gydag archwilio, prynu a logisteg y tyrbin dramor, gyda diolch arbennig i Paul Burrell.
- F&B Windpower – Daeth y tyrbin yn wreiddiol o’r Iseldiroedd, a chydag arbenigedd y peirianwyr hyn cafodd ei ddadosod, ei adnewyddu, ei storio, ei ddanfon a’i osod ar y safle yn Fferm Ffrwd. Fe wnaethant barhau i fod yn arbenigwyr Gweithredol a Rheoli tan 2022.
- Diolch arbennig i Eddie Bosman, ein “sibrydwr tyrbinau”, a wersyllodd ar y safle ar ôl y gwaith adeiladu cychwynnol i wirio bod y tyrbin yn gweithio’n iawn. Diolch am eich holl gyngor.
- Cyfreithwyr MFG – Cyngor cyfreithiol a thrafodaethau.
Cefnogaeth barhaus
- Ein peirianwyr Gweithredol a Chynnal a Chadw ers 2022, sy’n gwneud gwaith anhygoel o gadw ein llafnau’n troi’n barhaus. Diolch arbennig i Jake Mason a’i dîm.
- Y Teulu Evans – hebddyn nhw ni fyddai gennym brosiect o gwbl, ond yn anad dim am eu cefnogaeth, eu hamynedd a’u gwaith caled wrth ein helpu i gyrraedd y pwynt hwn.
- Llawer o gynghorwyr a grwpiau cymunedol lleol – rhy niferus i’w crybwyll ond sydd wedi dangos yn eu ffordd eu hunain y gallant weld y budd a ddaw i’r gornel hon o Geredigion gyda’r prosiect hwn.
