Yn eiddo i’r gymuned er budd y gymuned.

Rydym yn fenter gymdeithasol fach sy’n rhedeg y tyrbin gwynt mwyaf sy’n eiddo i’r gymuned yng Ngheredigion. Mae ein tyrbin yn cynhyrchu digon o ynni glân i bweru’r hyn sy’n cyfateb i 450 o gartrefi am flwyddyn.
Rhagwelir y bydd ein tyrbin yn cynhyrchu 1,743 MegaWat awr o drydan y flwyddyn.
Grannell Community Energy

Yn eiddo i’r gymuned er budd y gymuned.
Rydym yn fenter gymdeithasol fach sy’n rhedeg y tyrbin gwynt mwyaf sy’n eiddo i’r gymuned yng Ngheredigion. Mae ein tyrbin yn cynhyrchu digon o ynni glân i bweru’r hyn sy’n cyfateb i 450 o gartrefi am flwyddyn.
Rhagwelir y bydd ein tyrbin yn cynhyrchu 1,743 MegaWat awr o drydan y flwyddyn.

Ffurfiwyd Ynni Cymunedol Grannell yn 2016 a daeth i fodolaeth o angerdd ychydig o bobl leol a oedd eisiau helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd, diwallu anghenion ynni’r dyfodol, a chryfhau’r gymuned leol.
Daeth ein grŵp ynghyd i helpu i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer tyrbin gwynt ar fferm y teulu Evans, sydd wedi bod yn ffermio gwartheg a defaid yn yr ardal ers cenedlaethau. Rydym bellach yn rhedeg tyrbin gwynt Enercon E48 500kW wedi’i adnewyddu sydd wedi’i leoli ar eu fferm.
- 613 tunnell o CO2 wedi’u harbed
- Digon o drydan i gyflenwi 446 o gartrefi
- Dros £8,500 y flwyddyn ar gyfer cronfa gymunedol leol
Bydd ein tyrbin yn cyflenwi tua 446 o gartrefi cyffredin yn y DU (hanner Ward Llanfihangel Ystrad) â’u defnydd trydan domestig ac yn lleihau allyriadau CO2 y DU o tua 613 tunnell y flwyddyn.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i roi dros £8,500 bob blwyddyn i gronfa gymunedol. Bydd hyn ar gael i gefnogi grwpiau cymunedol lleol drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i bobl leol, cynaliadwyedd ac anghenion lleol eraill.

Ein tyrbin
Comisiynwyd y tyrbin ym mis Hydref 2019 ac mae’n dyrbin Enercon E48 ail-law sy’n gallu cynhyrchu uchafswm o 500kW o drydan. Ers i’r tyrbin gael ei gomisiynu, mae wedi cynhyrchu dros 5.5 miliwn kWh, gan gyrraedd y garreg filltir allweddol gyntaf o 1 miliwn kWh erbyn mis Mai 2020.

Y Gronfa Budd Cymunedol
Un o’n prif amcanion ar gyfer adeiladu’r tyrbin yw cryfhau’r gymuned wledig gerllaw’r tyrbin drwy wella cyfleusterau cymunedol. Bydd YCG yn creu cronfa gymunedol a fydd yn cael ei gwario o fewn cymunedau Llanwnnen, Llanfihangel Ystrad, a Llanbedr Pont Steffan.
Mae gwerthu’r trydan a gynhyrchir gan ein tyrbin gwynt yn rhoi ffynhonnell incwm reolaidd inni. O’r incwm dros ben hwn y gallwn gyflawni ein hamcanion cymdeithasol a darparu dros £8,500 yn flynyddol ar gyfer ein cronfa budd cymunedol.
