Cronfa budd cymunedol

Cronfa budd cymunedol

Mae rhan o’r incwm dros ben sy’n cael ei gynhyrchu gan y tyrbin gwynt ar gyfer prosiectau sydd o fudd i gymunedau gerllaw safle’r tyrbin. Mae blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau yn wardiau Llanwnnen, Llanfihangel Ystrad a Llanbedr Pont Steffan. Bydd prosiectau yn ardal ehangach Ceredigion hefyd yn cael eu hystyried.
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan grwpiau neu sefydliadau a gyfansoddwyd yn ffurfiol yng Ngheredigion a’r wardiau ‘blaenoriaeth’. Ein nod yn y rownd gyntaf hon o geisiadau yw cynnig grantiau o hyd at £3,000 ar gyfer costau cyfalaf a/neu refeniw.
Os oes gennych chi brosiect a fyddai’n elwa o’r gefnogaeth hon, cwblhewch y ffurflen gais, gan roi darlun mor lawn â phosibl o’ch sefydliad a phwy fydd yn elwa o’r cyllid os bydd y cais hwn yn llwyddiannus. Cofiwch gynnwys unrhyw fudd y bydd hyn yn ei gael ar gynaliadwyedd amgylcheddol ac wrth gefnogi’r gymuned leol.
Y dyddiad cau ar gyfer y rownd gyntaf hon o geisiadau yw 31ain o Orffenaf. 2025.
Bydd bwrdd y Gymdeithas yn asesu ceisiadau cyn pen pedair wythnos i’r dyddiad cau. Efallai y bydd angen cyfarfod dilynol arnon ni gyda’r ymgeiswyr hynny sy’n cael eu hystyried o ddifrif yn dilyn yr adolygiad cyntaf o’r cais. Byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd unwaith y bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud. Sylwch hefyd y gallwch ailymgeisio mewn rowndiau ymgeisio yn y dyfodol.
Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n:
- Ymgorffori rhyw elfen o gynaliadwyedd amgylcheddol;
- A fydd o fudd uniongyrchol i gymunedau yn y tair ward ‘flaenoriaeth’.
POB HWYL!
