Tyrbin Enercon E48 wedi’i adnewyddu, o’r Iseldiroedd, yw’r un sydd gennym ni.
Mae’n sefyll ar ben tŵr 50m ac mae rhychwant o 48 metr i’r llafnau.
Hwn yw’r tyrbin gwynt mwyaf sy’n eiddo i’r gymuned yng Ngheredigion.
Mae’n sefyll ar ben bryn gwyntog yn Ffrwd Farm, Llanwnnen, Ceredigion.
Mae ganddo gapasiti o 800kW, ond bydd yn cynhyrchu 500kW er mwyn cydymffurfio â gofynion y grid a’r Tariff Cyflenwi Trydan.
Amcangyfrifir y bydd y tyrbin yn cynhyrchu 1,743,000 kW o drydan bob blwyddyn – sy’n ddigon i gyflenwi tua 450 o gartrefi nodweddiadol neu hanner cymuned Llanfihangel Ystrad.
Bydd yn arbed mwy na 600 tunnell o CO2 bob blwyddyn, felly bydd ein cymuned yn cyfrannu at ddyfodol sero-net y Deyrnas Unedig.
Mae’n cysylltu â’r grid trwy is-orsaf ar y safle a chebl tanddaear sy’n cario 11,000 o foltiau.
Mae’r tyrbin yn pwyso tua 100 tunnell.
Defnyddiwyd 400 tunnell o goncrid a dur i greu’r sail.
Cludwyd y cydrannau i’r safle ar dair llong fferi a saith cerbyd nwyddau trwm.
Cymerodd bum niwrnod i godi’r tyrbin ar ôl paratoi’r safle.
Oes ddisgwyliedig y tyrbin yw 20 mlynedd.
Mae’n un o’r tyrbinau gwynt olaf yn y Deyrnas Unedig i dderbyn cymorth trwy gynllun Tariff Cyflenwi Trydan y llywodraeth.
Mae’r 129 sydd wedi buddsoddi yn Grannell Community Energy yn gyd-berchenogion ar y tyrbin.
Bydd y gronfa budd cymunedol yn dosbarthu o leiaf £5,000 y flwyddyn i gefnogi achosion da lleol.