Posted on

Llywodraeth Cymru yn cefnogi ynni adnewyddadwy – gweld ni yn y ffilm!

Sylwch ar glip o’n tyrbin yn cael ei godi yn y ffilm fach wych hon gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru – rydym yn falch o fod yn rhan o’u hymdrechion.

Team Wales – Achieving net zero through collaboration #WalesClimateWeek pic.twitter.com/PdgYIoJbuj

— @_energyservice (@_energyservice) November 6, 2020

https://twitter.com/_energyservice/status/1324659812739780614

Bydd ‘Wythnos Hinsawdd Cymru’ yn nodi dyddiad cynhadledd wreiddiol y COP26, a gynhaliwyd gan y DU, oni bai ei fod wedi’i ohirio oherwydd y pandemig. Maent wedi dechrau cyfri lawr nes dyddiad newydd COP26 ((Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd) yng Nglasgow mewn blwyddyn, a Chynllun Cyflawni nesaf (LCDP2) y Llywodraeth Cymru.

Mae’r Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth technegol, masnachol a hefyd gymorth â chaffael am ddim er mwyn helpu pobl i arbed ynni a datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy. Mae’r gwasanaeth ynni yn helpu â gwaith cynllunio ariannol ac â chyllid, er enghraifft benthyciadau di-log a grantiau.

Fel y gallwch weld o’r ffilm, maen nhw wedi bod yn brysur ond yn ymwybodol bod llawer o waith i’w wneud o hyd.

Os ydy’r ffilm wedi’ch ysbrydoli am ynni adnewyddadwy cymunedol, ystyriwch brynu cyfranddaliadau yn ein tyrbin pan fydd ein cynnig nesaf yn lansio yn y gwanwyn. Gallwch gofrestru eich diddordeb trwy dderbyn ein cylchlythyr yn y blwch ar y dde, a byddwn yn rhoi gwybod ichi pan ddaw’r amser.

Posted on

GCE yn rhoddi arian i Neuadd Fictoria, Llambed

Rydym yn falch ein bod wedi gallu rhoi £2000 i Neuadd Fictoria yn Llambed, i gefnogi’r ganolfan gymunedol leol hanfodol hon.

Mae’r neuadd yn ganolbwynt ac yn adnodd pwysig i’r gymuned, ac mae’n teimlo effaith ariannol o Covid-19, wrth i grwpiau a digwyddiadau gael eu canslo neu eu gohirio. Rydym yn falch o fod mewn sefyllfa i’w helpu gyda’u costau cyffredinol ar yr adeg hon. Dyma’r union fath o gymorth lleol yr oeddem wedi gobeithio y byddai cronfa gymunedol ein tyrbin yn gallu ei ddarparu.

Cadwch lygad ar wefan neu dudalen Facebook Neuadd Fictoria i gael manylion am ailagor.

Os hoffech chi ddod yn fuddsoddwr a dweud eich dweud yn nosbarthiad y gronfa gymunedol yn y dyfodol, mae newyddion ar ein cynnig cyfranddaliadau nesaf yn dod yn fuan.

Posted on

Y tyrbin yn pasio miliwn o gilowat-oriau!

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi fod ein tyrbin wedi cynhyrchu ychydig dros 1,000,000 kWh ers ei gomisiynu ym mis Hydref 2019. Roedd Chwefror a Mawrth yn fisoedd arbennig o dda oherwydd stormydd Ciara, Dennis a Jorge, gyda’r tyrbin yn cynhyrchu dros 440,000 kWh mewn cyfnod o ddau fis. Mae’r cynhyrchiad pŵer yn Ebrill a Mai wedi bod yn is na’r disgwyl oherwydd y cyfnod estynedig o wyntoedd isel ac amodau heulog.

Gallwch ddarllen mwy am y cyfnod torri-record yma, gan Bristol Energy: https://www.current-news.co.uk/news/storms-sent-bristol-energys-renewable-generation-soaring-in-february Rydym yn gwerthu ein trydan iddyn nhw ar hyn o bryd.

Posted on

Newyddion ar ein cynnig cyfranddaliadau yn dod yn fuan

Nid ydym ni yng Ngrannell wedi bod yn rhydd rhag aflonyddwch byd-eang y pandemig Covid-19. Roeddem yn bwriadu lansio ein hail gynnig cyfranddaliadau ym mis Mai, gyda chyfleoedd newydd i fuddsoddwyr ddod yn gydberchnogion ein tyrbin gwynt, ond gohiriwyd y lansiad oherwydd y pandemig.

Byddwn yn gwneud cyhoeddiad yn fuan iawn am y cyfle nesaf i fuddsoddi, felly os nad ydych chi wedi eisoes, cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Diolch byth bod y tyrbin ei hun, a adeiladwyd ym mis Hydref y llynedd, wedi bod yn troi trwy gydol y cyfnod hwn o aflonyddwch, ac rydym yn gyffrous ein bod wedi pasio’r marc miliwn-cilowat-awr yn ddiweddar!

Posted on

Mae’r gwaith adeiladu wedi’i gwblhau!

Bellach mae ein tyrbin gwynt cymunedol wedi cael ei gomisiynu ac mae’n cynhyrchu pŵer.

Diolch i bawb sydd wedi’n cefnogi ni ar y daith hon – o’n buddsoddwyr i’r timau gwych a fu’n rhan o’r gwaith adeiladu, a’r holl bobl leol ac aelodau a ddaeth draw i weld y tyrbin yn cael ei godi.

Roedd codi’r tyrbin ar Ffrwd Farm yn gamp beirianneg aruthrol a ddigwyddodd dros gyfnod o bum niwrnod ddechrau mis Hydref mewn tywydd heriol sy’n nodweddiadol o’r hydref yng Nghymru. Comisiynwyd y tyrbin ar 11eg Hydref ymhell cyn dyddiad cau’r Tariff Cyflenwi Trydan, sef 31ain Rhagfyr 2019 – sy’n golygu bod hwn yn un o’r prosiectau gwynt cymunedol olaf yn y Deyrnas Unedig i gael budd o’r cymhorthdal hwn gan y llywodraeth.

Gallwch weld lluniau o’r broses adeiladu gyfan yn ein horiel luniau.

Roedd digon o waith i’w wneud hefyd yn yr wythnosau blaenorol er mwyn paratoi’r safle cyn gosod y tyrbin. Gosodwyd sylfeini a thywallt y sail goncrid. Cwmni Green Cat o’r Alban oedd yn gyfrifol am y gwaith adeiladu.

Cafodd cydrannau mawr a thrwm iawn y tyrbin eu cludo yma o’r Iseldiroedd (lle bu gynt yn cynhyrchu pŵer ar fferm wynt sydd bellach yn cynhyrchu ynni â thyrbinau mwy o faint) ar bedair llong fferi, gan gyrraedd Harwich a Purfleet. Gwnaed saith taith ffordd gan gerbydau nwyddau trwm i gludo’r cydrannau i Ffrwd Farm, a rhan olaf y daith oedd lôn fferm y bu’n rhaid ei lledu, ei chryfhau ac ychwanegu 2km ati – gwaith enfawr a gyflawnwyd yn wych gan y cwmni lleol, D.G. Jones a’i Feibion.

Ar y safle, gosodwyd y cydrannau at ei gilydd gan dîm o beirianwyr cwmni F&B Windpower o’r Iseldiroedd, gan nad yw’r wybodaeth arbenigol hon ar gael yn y Deyrnas Unedig yn anffodus. Darparwyd craeniau i symud y gwahanol rannau i’w lle gan gwmni o Gymru, sef Davies Crane Hire o Gaerfyrddin.

Ar 5ed Hydref, gollyngwyd llafnau’r tyrbin i’w lle yn barod ar gyfer Cychwyn y Tyrbin, a oedd yn ddiwrnod cyffrous i bawb, yn enwedig i’r rhai a fu’n rhan o’r prosiect o’r dechrau. Daeth llawer o bobl, gan gynnwys cyfranddalwyr a’r gymuned leol, i wylio camau olaf y gwaith adeiladu.

Ers hynny, cafwyd ychydig o broblemau cychwynnol oedd yn golygu bod rhaid i’r tyrbin fod all-lein am gyfnod byr er mwyn eu datrys. Roeddem wedi rhagweld y problemau hyn, sy’n nodweddiadol mewn prosiectau o’r fath; mae popeth yn gweithio fel y dylai bellach.

Mae angen diolch i sawl un arall: i’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni am helpu i gael hyd i grantiau a benthyciadau, i Sharenergy am eu harweiniad a’u cymorth gyda’r cynnig cyfranddaliadau. Diolch i Second Wind Energy am gael hyd i’r tyrbin a goruchwylio’r gwaith o’i ddatgymalu a’i storio; byddan nhw’n parhau i’n helpu o ran gweithredu a chynnal a chadw. Diolch i Eddie o gwmni Bosman Inspecties a gysylltodd y tyrbin ar ôl ei godi a datrys y problemau cychwynnol. Rheolwyr y prosiect oedd Green Cat Renewables a’n contractwyr ar gyfer gweddill y gwaith oedd WindCare.

Posted on

Y Tyrbin – ffeithiau a ffigurau

  • Tyrbin Enercon E48 wedi’i adnewyddu, o’r Iseldiroedd, yw’r un sydd gennym ni.
  • Mae’n sefyll ar ben tŵr 50m ac mae rhychwant o 48 metr i’r llafnau.
  • Hwn yw’r tyrbin gwynt mwyaf sy’n eiddo i’r gymuned yng Ngheredigion.
  • Mae’n sefyll ar ben bryn gwyntog yn Ffrwd Farm, Llanwnnen, Ceredigion.
  • Mae ganddo gapasiti o 800kW, ond bydd yn cynhyrchu 500kW er mwyn cydymffurfio â gofynion y grid a’r Tariff Cyflenwi Trydan.
  • Amcangyfrifir y bydd y tyrbin yn cynhyrchu 1,743,000 kW o drydan bob blwyddyn – sy’n ddigon i gyflenwi tua 450 o gartrefi nodweddiadol neu hanner cymuned Llanfihangel Ystrad.
  • Bydd yn arbed mwy na 600 tunnell o CO2 bob blwyddyn, felly bydd ein cymuned yn cyfrannu at ddyfodol sero-net y Deyrnas Unedig.
  • Mae’n cysylltu â’r grid trwy is-orsaf ar y safle a chebl tanddaear sy’n cario 11,000 o foltiau.
  • Mae’r tyrbin yn pwyso tua 100 tunnell.
  • Defnyddiwyd 400 tunnell o goncrid a dur i greu’r sail.
  • Cludwyd y cydrannau i’r safle ar dair llong fferi a saith cerbyd nwyddau trwm.
  • Cymerodd bum niwrnod i godi’r tyrbin ar ôl paratoi’r safle.
  • Oes ddisgwyliedig y tyrbin yw 20 mlynedd.
  • Mae’n un o’r tyrbinau gwynt olaf yn y Deyrnas Unedig i dderbyn cymorth trwy gynllun Tariff Cyflenwi Trydan y llywodraeth.
  • Mae’r 129 sydd wedi buddsoddi yn Grannell Community Energy yn gyd-berchenogion ar y tyrbin.
  • Bydd y gronfa budd cymunedol yn dosbarthu o leiaf £5,000 y flwyddyn i gefnogi achosion da lleol.
Posted on

Llai nag wythnos i fynd! Mae’r cynnig yn cau ddydd Gwener 14eg Rhagfyr…

Ychydig ddyddiau’n unig sydd ar ôl i fuddsoddi yn un o’r prosiectau tyrbin gwynt olaf a arweinir gan y gymuned yng Nghymru, a’r un mwyaf yng Ngheredigion.

Caiff pobl sy’n byw yng Ngheredigion ymuno am gyn lleied â £100 y gyfran, a chaiff pobl o’r tu allan i’r ardal ymuno am £250 y gyfran. Buddsoddwch rhwng £100 a £100,000 a chewch dderbyn elw o ryw 5%, helpu i ymladd y newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd a chael dweud eich barn ar sut mae Grannell Community Energy yn gweithio.

Bydd y tyrbin yn cynhyrchu tua 1700 MWh o drydan y flwyddyn – sy’n ddigon ar gyfer rhyw 450 o gartrefi – ac yn arbed 613 tunnell o CO2.

Bydd eich aelodaeth yn gwneud gwahaniaeth i’n cymuned hefyd, gan ein bod ni’n gobeithio cyfrannu o leiaf £5000 y flwyddyn dros 20 mlynedd (yn amodol ar berfformiad y tyrbin) i gronfa gymunedol ar gyfer Llanwnnen, Llanfihangel Ystrad a Llanbedr Pont Steffan. Bydd y bwrdd yn gofyn i’r cymunedau lleol awgrymu sut dylai’r arian yn y gronfa hon gael ei ddyrannu a’i wario.

Posted on

Mae’r Ddogfen Cyfranddaliad newydd ar gael i’w lawr lwytho oddi ar y gwefan.

Mae’r Ddogfen Cyfranddaliad newydd ar gael i’w lawr lwytho oddi ar y gwefan, mae’n cynnwys y dyddiad cau newydd ar gyfer prynu cyfranddaliadau sef 14 Rhagfyr 2018. Nid yw ein hamcanestyniadau wedi’u newid, ac rydym wedi penderfynu mae dyddiad gosod y prosiect fydd Gwanwyn 2019 (gyda digon o amser cyn ein dyddiad cau ar gyfer y Tariff Cyflenwi Trydan o Ragfyr 2019).

Posted on

Mae’r dyfodol yn wyrdd – eich siawns i fuddsoddi yn un o’r prosiectau ynni cymunedol diwethaf yn y DU

Mae Ynni Cymunedol Grannell (Grannell) yn chwilio am ddefnyddwyr cymdeithasol cyfrifol a moesegol sydd am fuddsoddi yn un o’r prosiectau ynni tyrbin gwynt cymunedol diwethaf yn y Deyrnas Unedig.

Mae Grannell yn gymdeithas er budd cymunedol ac mae wedi ymrwymo i ddatblygu ynni glân a gostwng effeithiau newid hinsawdd trwy adeiladu ynni adnewyddadwy ar ffurf tyrbin gwynt. Mae’r prosiect yn gobeithio codi £700,000 erbyn 14 Rhagfyr 2018 er mwyn ariannu adeiladu tyrbin gwynt Enercon 500kW ger Llanbedr Pont Steffan yng nghanolbarth Cymru.

Bydd y tyrbin gwynt yn sefyll ar dwr 50 metr gyda rhychwant llafn 48 metr. Disgwylir iddo gynhyrchu tua 1700 MWh o drydan y flwyddyn, sy’n ddigon i tua 446 o gartrefi. Ar hyn o bryd, mae Grannell yn un o ddau brosiect ynni sy’n cael ei arwain gan y gymuned yng Nghymru ac yn gwerthu cyfranddaliadau cymunedol. Y prosiect arall yw Ynni Teg yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Cadeirydd Ynni Cymunedol Grannell, Leila Sharland: “Os oes gennych chi neu unrhyw un yr ydych chi’n adnabod ddiddordeb mewn ynni gwyrdd a hoffech fuddsoddi yn ein prosiect yna cysylltwch â ni. Mae cefnogi prosiectau lleol fel hyn yn ffordd wych o greu newid ar lawr gwlad.”

Mae cymdeithasau budd-daliadau cymunedol fel Grannell yn adlewyrchu ymrwymiad i’r gymuned ehangach, a bydd buddsoddwyr yn y prosiect yn medru ennill tua 5% ar eu cyfranddaliadau dros 20 mlynedd. Bydd unrhyw elw ychwanegol yn cael ei roi yn ôl i fusnesau a phrosiectau lleol.

Ychwanegodd Ms Sharland: “Mae’r prosiect hwn yn ffordd wych i’r rhai sydd â diddordeb mewn buddsoddiadau cyfrifol-gymdeithasol. Rydym yn anelu at gyflwyno prosiect sy’n gallu dod a’r gymuned at ei gilydd, yn cynhyrchu ynni gwyrdd yng nghanol Cymru, ac yn cynnig dychwelyd teg i gefnogwyr am eu harian a’u ffydd, oll wrth ddarparu cronfa gymunedol i gefnogi prosiectau lleol yn yr ardal.”

Os hoffech brynu cyfranddaliadau yn y prosiect hwn, e-bostiwch info@grannellcoop.org.uk , ffoniwch 01743 835242 neu ewch i’r wefan www.grannellcoop.org.uk

Cefnogir Ynni Cymunedol Grannell gan Sharenergy, Amwythig. Mae Sharenergy wedi cynorthwyo dros 30 o brosiectau ynni cymunedol ar draws y DU, a defnyddir eu profiad helaeth ar y prosiect yma.

Yn ychwanegol, cefnogir y prosiect gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi sectorau ynni cyhoeddus a chymunedol yng Nghymru i ddatblygu prosiectau ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy.

Posted on

Buddsoddiad o £40,000 gan deulu lleol i brosiect ynni cymunedol ger Llambed

Mae Ynni Cymunedol Grannell (Grannell) wedi cyhoeddi ei fod wedi codi £156,873 o’r £700,000 sydd ei angen i adeiladu tyrbin gwynt 500kW ger Llanbedr Pont Steffan.

Mae swm mawr o’r arian hwn wedi’i fuddsoddi gan y teulu Bodsworth o Langeitho ger Tregaron. Mae’r teulu wedi buddsoddi cyfanswm o £40,000 o’u harian eu hunain i’r prosiect, sef un o ddim ond dau brosiect ynni gwynt a arweinir gan y gymuned sydd ar gael yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.

Symudodd Mr David Bodsworth gyda’i wraig a’i fam i’r ardal yn 2011 o Berkshire. Ar ôl prynu coetir lleol ac yna fferm yn yr un ardal yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, roeddent yn edrych ar ffyrdd eraill o gyfrannu at eu cymuned leol.

Wedi ymddeol, ac yn 60 oed, mae’n esbonio: “Ar ôl gyrfa hir yn y diwydiant olew a petrocemegol a gweld yr angen am ffynonellau ynni amgen, roeddwn yn awyddus i fuddsoddi a bod yn rhan o’r sector ynni adnewyddadwy. Fel teulu, roeddem hefyd eisiau bod yn rhan o’r gymuned leol a chyfrannu pa bynnag ffordd y gallem ni i brosiectau lleol. Roedd y prosiect Grannell yn ymddangos yn berffaith gyda chydbwysedd perffaith i’n hanghenion. “

Ychwanegodd: “Wrth i olew fynd yn fwy prin, mae dod o hyd i ffynonellau olew amgen yn anochel ac yn cael mwy o effaith amgylcheddol, golyga hyn bod yr amser wedi dod i edrych ar ffynonellau ynni cynaliadwy os ydym am gadw’r goleuadau ymlaen yn y dyfodol! Rwy’n credu ein bod ni’n gymdeithas gwastraffus, ac mae angen i ni newid y ffordd yr ydym yn byw ac yn ymddwyn. Rwy’n credu mai defnyddio a buddsoddi mewn ynni gwyrdd yw’r ffordd ymlaen.”

Hyd yn hyn, mae Grannell wedi codi £156,873 o’r £700,000 y mae angen iddo ariannu adeiladu tyrbin gwynt 50 metr o uchder ger Llanbedr Pont Steffan. Os codir y swm cyfan erbyn 14 Rhagfyr eleni, mae Grannell yn gobeithio dechrau adeiladu’r tyrbin gwynt, gyda’r nod o’i gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2019.

Dywedodd Leila Sharland, Cadeirydd Ynni Cymunedol Grannell: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Bodsworth a’i deulu am fuddsoddi yn y prosiect. Mae eu cyfraniad wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’n targed. Wrth gwrs, mae angen mwy o bobl arnom i brynu cyfranddaliadau ac i gyrraedd ein targed, felly cofiwch gysylltu os ydych chi am fod yn rhan o brosiect adnewyddadwy unigryw.”

Mae Grannell wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu’r tyrbin gwynt ar dir fferm ger Cribyn, Llanbedr Pont Steffan. Bydd y tyrbin gwynt yn sefyll ar dwr 50 metr gyda rhychwant llafn 48 metr. Disgwylir iddo gynhyrchu tua 1700 MWh o drydan y flwyddyn, sy’n ddigon i tua 446 o gartrefi.

Os hoffech brynu cyfranddaliadau i’r prosiect hwn, e-bostiwch info@grannellcoop.org.uk , ffoniwch 01743 835242 neu ewch i’r wefan www.grannellcoop.org.uk.

Cefnogir Ynni Cymunedol Grannell gan Sharenergy, Amwythig. Mae Sharenergy wedi cynorthwyo dros 30 o brosiectau ynni cymunedol ar draws y DU, a defnyddir eu profiad helaeth ar y prosiect yma.

Yn ychwanegol , cefnogir y prosiect gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi sectorau ynni cyhoeddus a chymunedol yng Nghymru i ddatblygu prosiectau ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy.