Rydym yn gyffrous i gyhoeddi fod ein tyrbin wedi cynhyrchu ychydig dros 1,000,000 kWh ers ei gomisiynu ym mis Hydref 2019. Roedd Chwefror a Mawrth yn fisoedd arbennig o dda oherwydd stormydd Ciara, Dennis a Jorge, gyda’r tyrbin yn cynhyrchu dros 440,000 kWh mewn cyfnod o ddau fis. Mae’r cynhyrchiad pŵer yn Ebrill a Mai wedi bod yn is na’r disgwyl oherwydd y cyfnod estynedig o wyntoedd isel ac amodau heulog.

Gallwch ddarllen mwy am y cyfnod torri-record yma, gan Bristol Energy: https://www.current-news.co.uk/news/storms-sent-bristol-energys-renewable-generation-soaring-in-february Rydym yn gwerthu ein trydan iddyn nhw ar hyn o bryd.

 

Y tyrbin yn pasio miliwn o gilowat-oriau!