Nid ydym ni yng Ngrannell wedi bod yn rhydd rhag aflonyddwch byd-eang y pandemig Covid-19. Roeddem yn bwriadu lansio ein hail gynnig cyfranddaliadau ym mis Mai, gyda chyfleoedd newydd i fuddsoddwyr ddod yn gydberchnogion ein tyrbin gwynt, ond gohiriwyd y lansiad oherwydd y pandemig.
Byddwn yn gwneud cyhoeddiad yn fuan iawn am y cyfle nesaf i fuddsoddi, felly os nad ydych chi wedi eisoes, cofrestrwch i’n cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Diolch byth bod y tyrbin ei hun, a adeiladwyd ym mis Hydref y llynedd, wedi bod yn troi trwy gydol y cyfnod hwn o aflonyddwch, ac rydym yn gyffrous ein bod wedi pasio’r marc miliwn-cilowat-awr yn ddiweddar!
Newyddion ar ein cynnig cyfranddaliadau yn dod yn fuan