Allech chi fod yn un o Gyfarwyddwyr Ynni Cymunedol Grannell?

Rydym ni’n chwilio am gyfarwyddwyr sydd ag amrywiaeth o gefndiroedd, profiadau a setiau sgiliau i ymuno â ni. Fyddech chi’n barod i roi o’ch amser a’ch ymroddiad? Ydych chi’n rhannu ein hangerdd ynghylch ynni adnewyddadwy a phrosiectau cymunedol?

Ein cenhadaeth yw helpu canolbarth Cymru i ddatblygu dyfodol ynni glân, lliniaru’r newid yn yr hinsawdd trwy osod dulliau o gynhyrchu ynni adnewyddadwy, a gwneud hynny mewn modd teg trwy ledaenu’r berchnogaeth a’r manteision ar draws y gymuned, yn hytrach na’u crynhoi yn nwylo nifer bychan. Y llynedd gosodwyd tyrbin gwynt 500Kw yn lleol, ac mae bellach yn cynhyrchu ynni glân, gwyrdd, sy’n eiddo i’r gymuned, gyda phopeth sy’n weddill yn cynnal ein cymuned leol.

Rydym ni’n cwrdd dair neu bedair gwaith y flwyddyn, ond yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r hwyr ar ffurf galwadau cynadledda. Ar ben hynny, gall cyfarwyddwyr fod yn anffurfiol gyfrifol am gadw llygad ar feysydd lle mae ganddynt arbenigedd.

Mae yna restr o’r cyfarwyddwyr cyfredol yma, mwy ar y tyrbin yma, a’r ddogfen cyfranddaliad blaenorol yma.

Rydym ni’n arbennig o awyddus i recriwtio pobl sydd â phrofiad cymunedol, ynni adnewyddadwy, cyfreithiol, ariannol, a busnes a marchnata, ond mae rolau eraill ar gael yn ogystal.

Hefyd gallwch anfon CV, yn cynnwys enwau dau ganolwr, a gair byr yn egluro eich diddordeb, at y Cyfarwyddwyr yn info@grannellcommunity.coop.org

Neu drwy’r post at Ynni Cymunedol Grannell, Pandy, Cribyn, Llanbedr-pont-steffan SA48 7QH

Swyddi gwag i Gyfarwyddwyr gwirfoddol – ymunwch â ni!