Rydym yn falch ein bod wedi gallu rhoi £2000 i Neuadd Fictoria yn Llambed, i gefnogi’r ganolfan gymunedol leol hanfodol hon.

Mae’r neuadd yn ganolbwynt ac yn adnodd pwysig i’r gymuned, ac mae’n teimlo effaith ariannol o Covid-19, wrth i grwpiau a digwyddiadau gael eu canslo neu eu gohirio. Rydym yn falch o fod mewn sefyllfa i’w helpu gyda’u costau cyffredinol ar yr adeg hon. Dyma’r union fath o gymorth lleol yr oeddem wedi gobeithio y byddai cronfa gymunedol ein tyrbin yn gallu ei ddarparu.

Cadwch lygad ar wefan neu dudalen Facebook Neuadd Fictoria i gael manylion am ailagor.

Os hoffech chi ddod yn fuddsoddwr a dweud eich dweud yn nosbarthiad y gronfa gymunedol yn y dyfodol, mae newyddion ar ein cynnig cyfranddaliadau nesaf yn dod yn fuan.

GCE yn rhoddi arian i Neuadd Fictoria, Llambed