Sylwch ar glip o’n tyrbin yn cael ei godi yn y ffilm fach wych hon gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru – rydym yn falch o fod yn rhan o’u hymdrechion.

Bydd ‘Wythnos Hinsawdd Cymru’ yn nodi dyddiad cynhadledd wreiddiol y COP26, a gynhaliwyd gan y DU, oni bai ei fod wedi’i ohirio oherwydd y pandemig. Maent wedi dechrau cyfri lawr nes dyddiad newydd COP26 ((Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd) yng Nglasgow mewn blwyddyn, a Chynllun Cyflawni nesaf (LCDP2) y Llywodraeth Cymru.

Mae’r Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth technegol, masnachol a hefyd gymorth â chaffael am ddim er mwyn helpu pobl i arbed ynni a datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy. Mae’r gwasanaeth ynni yn helpu â gwaith cynllunio ariannol ac â chyllid, er enghraifft benthyciadau di-log a grantiau.

Fel y gallwch weld o’r ffilm, maen nhw wedi bod yn brysur ond yn ymwybodol bod llawer o waith i’w wneud o hyd.

Os ydy’r ffilm wedi’ch ysbrydoli am ynni adnewyddadwy cymunedol, ystyriwch brynu cyfranddaliadau yn ein tyrbin pan fydd ein cynnig nesaf yn lansio yn y gwanwyn. Gallwch gofrestru eich diddordeb trwy dderbyn ein cylchlythyr yn y blwch ar y dde, a byddwn yn rhoi gwybod ichi pan ddaw’r amser.

 

Llywodraeth Cymru yn cefnogi ynni adnewyddadwy – gweld ni yn y ffilm!