Posted on

Mae Ynni Cymunedol Grannell yn ymestyn ei gynnig o gyfrandaliadau

Yn unol â’r ddarpariaeth i’r Cynnig o Gyfranddaliadau, penderfynodd Cyfarwyddwyr Ynni Cymunedol Grannell ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyfranddaliadau i 14 Rhagfyr 2018.

Cymerwyd y penderfyniad i ymestyn y dyddiad cau ar ôl ystyried y ffaith bydd yna tua 12 mis ar ôl i orffen y gwaith gosod i’r prosiect cyn y dyddiad cau Tariff Cyflenwi Trydan.

Mae nifer o’r cyfranddaliadau a brynwyd gan fuddsoddwyr yn parhau i gynyddu a dyma’r prif ffocws i godi arian, gan y bydd hyn yn sicrhau cyfranogiad a rheolaeth gan y gymuned, a darparu elw da i fuddsoddwyr. Mae’r prosiect hefyd yn archwilio posibiliadau cyllid amgen, gan gynnwys prynu cyfranddaliadau gan sefydliadau.

Esboniodd Leila Kiersch, Cadeirydd Ynni Cymunedol Grannell: “Gosodwyd i’n hunain targed uchel o wyth wythnos i gyrraedd, er yn falch o wneud cynnydd da, nid yw’r swm a godwyd hyd yn hyn yn ddigonol eto i ni fedru symud ymlaen.”

Ychwanegodd: “Hoffwn roi sicrwydd i fuddsoddwyr bod yr arian yn cael ei gadw i’r ochr ac ni fydd yn cael ei wario nes ein bod mewn sefyllfa i gadarnhau y gall y prosiect fynd yn ei flaen. Rydym yn parhau’n gwbl ymrwymedig i ddychwelyd yr holl arian i’n buddsoddwyr, os daw’n amlwg na fyddwn yn gallu codi’r cyllid digonol.”

Mae’r tîm yn gweithio’n galed ar ymgyrch farchnata newydd, gyda diweddariad i’r wefan, ynghyd â mynychu digwyddiadau lleol, anfon datganiadau i’r wasg a chyfryngau cymdeithasol a thargedu hysbysebu cenedlaethol. Bydd y prosiect hefyd yn targedu cefnogwyr hirdymor i brosiectau ynni cymunedol eraill, gan fod y toriadau i’r cynllun Tariff Cyflenwi Trydan yn ei gwneud yn anodd iawn i brosiectau newydd fod yn ymarferol. O ganlyniad, bydd y prosiect hwn o ynni gwyrdd cymunedol yn un o’r rhai olaf y gall y cyhoedd fuddsoddi ynddi, hyd nes y bydd newidiadau i’r polisi gan y llywodraeth.

Ychwanegodd Leila: “Rydym wedi codi bron i £140,000 hyd yn hyn ond mae gennym rywfaint o ffordd i fynd eto, os ydych yn adnabod rhywun a fyddai â diddordeb mewn prynu cyfranddaliadau, gofynnwch iddynt ystyried cefnogi’r prosiect hwn a chymryd rhan.”

Nòd Ynni Cymunedol Grannell yw cyflwyno prosiect sy’n gallu dod â’r gymuned at ei gilydd, cynhyrchu ynni gwyrdd yng nghefn gwlad Cymru, a chynnig elw teg i gefnogwyr, am eu buddsoddiad a’u hymddiriedaeth, a hyn oll hefyd yn cynnig cronfa gymunedol i gefnogi prosiectau lleol yn yr ardal.

Os hoffech brynu cyfranddaliadau i’r prosiect hwn, e-bostiwch info@grannellcoop.org.uk , ffoniwch 01743 835242 neu ewch i’r wefan www.grannellcoop.org.uk/cy/hafan/.

Cefnogir Ynni Cymunedol Grannell gan Sharenergy, Amwythig. Mae Sharenergy wedi cynorthwyo dros 30 o brosiectau ynni cymunedol ar draws y DU, a defnyddir ei brofiad helaeth ar y prosiect yma.

Yn ychwanegol i hyn, cefnogi’r prosiect hwn gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi sectorau ynni cyhoeddus a chymunedol yng Nghymru i ddatblygu prosiectau ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy.

Posted on

Egni Cymunedol Grannell yw’r prosiect olaf o’i fath yn y DU

Mae Egni Cymunedol Grannell (Grannell) yn un o’r prosiectau gwynt cymunedol ar y lan olaf yn y DU i sicrhau Tariff Cyflenwi Trydan.

Mae’r cynllun Tariff Cyflenwi Trydan (TCT) yn rhaglen lywodraethol a gynlluniwyd i hyrwyddo’r defnydd o dechnolegau cynhyrchu trydan adnewyddadwy a charbon isel. Fe’i cyflwynwyd ar 1 Ebrill 2010 a chaiff ei ddiddymu’n raddol erbyn Mawrth 2019.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae cynllun TCT a’i dariffau wedi gostwng yn sylweddol bob chwarter, ac mae hefyd yn cael ei resymoli felly ychydig iawn o brosiectau sydd wedi gallu cael unrhyw TCT o gwbl. Mae nifer y prosiectau newydd sy’n gallu derbyn cymorth o dan y cynllun TCT bob mis yn cael eu capio. Grannell oedd un o’r prosiectau olaf o dan arweiniad y gymuned o’i fath yn y DU i fod yn gymwys.

Meddai Jeremy Thorp o Sharenergy: “Mae Grannell wedi llwyddo i sicrhau TCT, ac er ei bod yn ymddangos yn isel, mae’r grŵp wedi cynllunio eu prosiect yn glyfar i weithio ar y lefel hon. Maent yn lleihau costau trwy ddefnyddio tyrbin gwynt Enercon wedi’i hadnewyddu o ansawdd uchel o’r Iseldiroedd a thrwy gael benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru.”

Gwnaeth Grannell gais am y cynllun TCT ym mis Rhagfyr 2016, ac yn ôl cofnodion Ofgem mae tyrbin gwynt y grŵp yn un o ddim ond pump ar draws y DU a fydd yn derbyn TCT ar yr un gyfradd. Mewn gwirionedd, mae Grannell yn un o’r 25 tyrbin ar y lan olaf yn y DU a fydd yn derbyn unrhyw gefnogaeth o unrhyw fath gan y llywodraeth.

Yn achos tyrbin gwynt Grannell ger Llanbedr Pont Steffan, mae’r TCT yn darparu taliad ar gyfer pob uned o ynni y mae’r tyrbin yn ei gynhyrchu. Mae’r tyrbin gwynt wedi cymhwyso ar gyfer TCT o 1.92p/kWh, a fydd yn cynyddu gan RPI dros yr 20 mlynedd o’i fodolaeth.

Ychwanegodd Jeremy: “Mae’r goblygiadau ar gyfer pŵer gwynt yn grêt. Ychydig iawn o brosiectau fydd yn gallu goroesi heb rhywfaint o gefnogaeth. Dim ond ffermydd gwynt mawr iawn mewn ardaloedd anghysbell, yn hytrach na phrosiectau sy’n eiddo i’r gymuned ar raddfa ganolig, fydd yn gallu goroesi.”

Os hoffech chi gefnogi un o’r tyrbinau gwynt diweddaraf yn y DU, ystyriwch ymuno â’r prosiect trwy brynu cyfranddaliadau. Gallwch wneud cais ar-lein trwy’r wefan www.grannellcoop.org.uk neu drwy anfon ffurflen bapur yn y post.

Cefnogir Egni Cymunedol Grannell gan Sharenergy, a leolir yn yr Amwythig. Mae Sharenergy wedi cynorthwyo dros 30 o brosiectau ynni cymunedol ledled y DU, ac mae eu profiad helaeth yn cael ei ddefnyddio ar y prosiect yma.

Posted on

Egni Cymunedol Grannell yn prysur hyrwyddo ei brosiect tyrbin gwynt newydd

Bant a’r cart! Dros yr wythnosau nesaf mae Egni Cymunedol Grannell (ECG) yn hyrwyddo eu prosiect tyrbin gwynt newydd yn yr ardal leol, gan fod cyfranddaliadau’r prosiect nawr ar gael i’w prynu – y mwyaf o’i fath yng Ngheredigion.

 Mynychodd Cadeirydd ECG, Elly Foster, Farchnad Bobl Llanbedr Pont Steffan yn Neuadd Fictoria ddydd Sadwrn 23 Mehefin i siarad â phobl leol a dosbarthu gwybodaeth am y Cynnig Cyfranddaliad. Meddai: “Rydyn ni wedi cael llawer o ddiddordeb yn y prosiect hyd yn hyn, ac rydyn ni’n rhoi gwybod i bawb fod y cyfranddaliadau nawr ar gael i’w prynu!”

 I brynu cyfranddaliadau a dod yn aelod a chydberchennog yn y tyrbin gwynt, mae’n rhaid i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn. Gallwch wneud cais am rhwng £100 a £100,000 mewn cyfranddaliadau, a rhagwelir enillion blynyddol i aelodau o 5% ar gyfartaledd dros yr 20 mlynedd nesaf. Amcangyfrifir hefyd y bydd oddeutu £5,000 y flwyddyn yn mynd i mewn i gronfa gymunedol leol.

 Caiff y tyrbin gwynt, sydd yn Enercon E48 500kW, ei adeiladu ger Cribyn, Llanbedr Pont Steffan. Bydd yn cynhyrchu tua 1700MWh o drydan y flwyddyn – yn ddigon ar gyfer tua 450 o gartrefi.

 Bydd aelodau Egni Cymunedol Grannell hefyd yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 30 Mehefin i godi ymwybyddiaeth o’r prosiect a dosbarthu taflenni i’r rhai sydd â diddordeb. Am ragor o wybodaeth ac i brynu cyfranddaliadau ewch i www.grannellcoop.org.uk

 Cefnogir Egni Cymunedol Grannell gan Sharenergy, a leolir yn yr Amwythig. Mae Sharenergy wedi cynorthwyo dros 30 o brosiectau ynni cymunedol ledled y DU, ac mae eu profiad helaeth yn cael ei ddefnyddio ar y prosiect yma.

Chwith – Dde: Dinah Mulholland yn derbyn y Ddogfen Cyfranddaliad gan Elly Foster, Cadeirydd Egni Cymunedol Grannell ym Marchnad y Bobl, Llanbedr Pont Steffan. Mae Dinah yn aelod o’r Blaid Lafur yng Ngheredigion ac yn gefnogwr enfawr o ECG a’r cysyniad o ynni cymunedol.

Posted on

Cfyle i chi gael Cyfranddaliadau Mewn Tyrbin Gwynt Cymunedol Newydd Ger Llanbedr Pont Steffan

1 Mehefin 2018 – Mae Egni Cymunedol Grannell (ECG) heddiw yn cyhoeddi lansio ei chyfranddaliadau i’r cyhoedd. Dyma’r prosiect budd cymunedol cyntaf o’r maint yma yng Ngheredigion, ble bydd tyrbin gwynt 500kW yn cael ei adeiladu a chyfranddaliadau yn cael eu cynnig i’r cyhoedd.

Mae’r prosiect yn cael ei reoli gan Egni Cymunedol Grannell (ECG), ac mae cyfalaf y prosiect hyd yn hyn wedi dod o fenthyciadau tymor-byr gan Banc Datblygu Cymru a grant o Ynni Lleol. Bydd y benthyciad yn cael ei ail-ariannu drwy ddefnyddio’r arian a godir o’r cyfranddaliadau.

Mae ECG yn Gymdeithas Budd Cymunedol, sy’n golygu gall unrhyw un sydd yn 16 oed neu’n hŷn ddod yn aelod drwy brynu cyfranddaliadau a dod yn rhan-berchennogion ar dyrbin gwynt. Dyma’r tro cyntaf i’r cyhoedd cael y cyfle i brynu a pherchen cyfranddaliadau mewn prosiect ynni cymunedol lleol yma yn ardal Llanbedr Pont Steffan.

Gobeithir codi £700,000 drwy’r cynnig cyfranddaliadau yma i ariannu adeiladu’r tyrbin gwynt. Mae’r grŵp cymunedol yn gwahodd pobl o bell ac agos i brynu cyfranddaliadau a dod yn aelodau o’r prosiect.

Mae ECG yn awyddus iawn i bobl leol a’u teuluoedd gael y cynnig i brynu cyfranddaliadau, felly os ydych yn byw yng Ngheredigion, SA40 a SY23 cewch fuddsoddi lleiafswm o £100 neu fwy. Tu allan i’r ardaloedd yma rhaid i chi fuddsoddi lleiafswm o £250. Rhagwelir enillion blynyddol i aelodau o 5% ar gyfartaledd dros y 20 mlynedd nesaf. Bydd aelodau yn derbyn enillion ar eu buddsoddiad ar ôl nifer o flynyddoedd, a gofynir iddynt bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Bydd y prosiect yn creu cronfa gymunedol o £5,000 y flwyddyn a thrwy hyn yn cefnogi prosiectau lleol a dod a buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i lefydd fel Llanwnnen, Llanfihangel Ystrad a Llanbedr Pont Steffan.

Dywedodd Elly Foster, Cadeirydd Egni Cymunedol Grannell: “Mae wedi cymryd llawer o waith caled i ddod i’r sefyllfa yma ac rydym yn falch i gynnig cyfranddaliadau yn y tyrbin gwynt o’r diwedd. Y bwriad yw codi’r arian yma dros y misoedd nesaf a gobeithio cyrraedd ein targed a dechrau adeiladu cyn Nadolig 2018!”

Enercon E48 500kW ydi’r tyrbin gwynt a fydd yn cael ei adeiladu ar Fferm Ffrwd ger Cribyn, Llanbedr Pont Steffan. Mae gan y tyrbin gwynt dwr 50 metr a rhychwant llain 48 metr, a bydd y tyrbin gwynt yn cynhyrchu tua 1700 MWh o drydan y flwyddyn – yn ddigon ar gyfer tua 450 o gartrefi. Amcangyfrifir bydd y tyrbin gwynt yn rhwystro tua 600 tunnell o CO² rhag mynd i’r awyr bob blwyddyn.

Dywedodd Lindsay Thomas, Trysorydd Egni Cymunedol Grannell: “Mae hwn yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ynni adnewyddadwy, er bod buddiannau ariannol yn rhan o’r prosiect. Bydd aelodau sydd yn prynu cyfranddaliadau yn gwybod eu bod yn gwneud gwahaniaeth i genedlaethau i ddod, ac y cefnogi eu cymunedau lleol.”

Am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho copi o’r Ddogfen Cyfranddaliad ewch i’r wefan www.grannellcoop.org.uk

Cefnogir Egni Cymunedol Grannell gan Sharenergy, a leolir yn yr Amwythig, mae Sharenergy wedi cynorthwyo dros 30 o brosiectau ynni cymunedol ledled y DU, ac mae eu profiad helaeth yn cael ei ddefnyddio ar y prosiect yma.