Mae Ynni Cymunedol Grannell yn falch o gyhoeddi eu bod yn cynnig cystadleuaeth i roi cyfle i chi ennill gwerth £250 o gyfranddaliadau yn ei dyrbin gwynt.

Bydd unrhyw un sy’n prynu cyfranddaliadau yn dod yn aelod o’r prosiect cymunedol ac yn dod yn rhan-berchennog yn y tyrbin gwynt. Drwy wneud hynny, bydd aelodau’n helpu i atal newid yn yr hinsawdd a gallant ddisgwyl dychweliad o tua 5% ar eu buddsoddiad dros oes y prosiect. Nawr, mae cyfle i un person arbennig gynyddu eu buddsoddiad cychwynnol gyda hwb o £250 o gyfranddaliadau pellach.

Y cyfan sydd raid i chi ei wneud i ennill yw mynd i’r wefan www.grannellcoop.org.uk a chofrestru i fod yn aelod, gallwch brynu lleiafswm o £250 o gyfranddaliadau os ydych yn byw tu allan i Geredigion, neu lleiafswm o £100 os ydych yn lleol i’r prosiect.

Unwaith y byddwch chi wedi ymuno, anfonir linc i ffurflen gystadleuaeth ar-lein i chi, rhaid i chi ateb un cwestiwn syml, cwblhau brawddeg yn eich geiriau eich hun, a rhoi gwybod sut wnaethoch chi glywed amdanom ni, i fod a chyfle i ennill y cyfranddaliadau ychwanegol. Felly peidiwch ag oedi. Bydd y cynnig yma ar gael i aelodau presennol a phobl newydd sy’n dod yn aelodau rhwng nawr a 30 Tachwedd 2018 yn unig gan Grannell.

Beth am roi cyfle i’ch ffrindiau a’ch teulu i ennill? Os ydych chi’n prynu cyfranddaliadau ar gyfer plentyn, rhiant neu ffrind, cewch gyfle arall i fod yn rhan o’r gystadleuaeth, ar eich cyfer chi neu ar eu cyfer nhw. Os ydynt yn prynu cyfranddaliadau eu hunain, gallant hefyd fod yn rhan o’r gystadleuaeth. Felly, lledaenwch y neges, gan na fyddwn yn ymestyn y dyddiadau ar y gystadleuaeth hon!

Meddai Cadeirydd Ynni Cymunedol Grannell, Leila Kiersch: “Rydyn ni’n gwybod ein bod yn gofyn i chi ymuno â ni a gwneud buddsoddiad i fod yn rhan o’r gystadleuaeth hefyd, ond ni allwn dalu i adeiladu’r tyrbin gwynt neu gynnig cyfranddaliadau os nag oes gennym ddigon o aelodau. Yn ôl ein rhagamcaniadau cynnig cyfranddaliadau, mae pob aelod i fod i gael eu buddsoddiad yn ôl a dychwelyd bach arno hefyd, nid yr enillydd yn unig!”

Ychwanegodd: “O ran Grannell, dim ond ychydig o bobl ofalgar sy’n dilyn yn ôl troed nifer o brosiectau ynni cymunedol eraill. Rydym yn gymdeithas fudd-dal, nid er elw cofrestredig, gyda Bwrdd Cyfarwyddwyr gwirfoddol a dim staff cyflogedig.”

Am delerau ac amodau llawn, ewch i’n gwefan https://grannellcoop.org.uk/win-extra-shares/

Cefnogir Ynni Cymunedol Grannell gan Sharenergy, Amwythig. Mae Sharenergy wedi cynorthwyo dros 30 o brosiectau ynni cymunedol ar draws y DU, a defnyddir eu profiad helaeth ar y prosiect yma.

Yn ychwanegol, cefnogir y prosiect gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi sectorau ynni cyhoeddus a chymunedol yng Nghymru i ddatblygu prosiectau ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy.

ENILLWCH £250 O GYFRANDDALIADAU MEWN TYRBIN GWYNT!