Nawr bod y tyrbin wedi’i gomisiynu’n llwyddiannus, bod ambell broblem gychwynnol wedi’u datrys a bod y tyrbin yn cynhyrchu pŵer yn effeithiol ac yn effeithlon, mae’r Bwrdd yn troi ein sylw at y Cynnig Cyfranddaliadau nesaf.

Rydyn ni’n disgwyl ei lansio yng ngwanwyn 2020. Bydd hynny’n rhoi sawl mis o ddata cynhyrchu i ni er mwyn i ni allu sicrhau bod y prosiect yn perfformio’n unol â’r targed neu’n rhagori arno.

Talwyd am y costau adeiladu trwy gyfuniad o gyllid grant gan Lywodraeth Cymru; derbyniadau ein cynnig cyfranddaliadau cyntaf yn 2018, a ddenodd 129 o unigolion i fuddsoddi a chodi £368,406; a benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru er mwyn gwarantu’r balans. Bydd yr ail gynnig cyfranddaliadau yn fodd i ni ad-dalu rhywfaint o’r ddyled, a fydd yn gwneud y tyrbin yn fwy proffidiol ac felly’n cynyddu maint y gronfa budd cymunedol.

Ers lansio ein cynnig cyfranddaliadau diwethaf ym Mehefin 2018, bu newid amlwg a sylweddol yn ymwybyddiaeth y cyhoedd o Argyfwng yr Hinsawdd a’r angen am ddadgarboneiddio ein cyflenwadau trydan.

Byddwn ni’n rhoi ail gyfle i bobl leol a chefnogwyr ynni cymunedol brynu cyfran mewn prosiect sy’n taclo’r problemau hyn yn ddiwyro, heb orfod wynebu’r risgiau adeiladu. Caiff buddsoddwyr presennol gynyddu nifer eu cyfranddaliadau hefyd os byddan nhw’n dymuno. Diolch i bobl fel Greta Thunberg, Chwyldro Difodiant (XR) a Syr David Attenborough (i enwi rhai yn unig!) mae awydd cryf ymhlith pobl i ddefnyddio’u harian i wneud gwahaniaeth cadarnahaol. Rydyn ni’n disgwyl felly y bydd llawer o ddiddordeb yn yr ail gynnig.

Dewch yn ôl yn y man i gael gwybodaeth am y cynnig cyfranddaliadau newydd. Gallwch fynegi diddordeb heb ymrwymo i ddim.

Paratoi ar gyfer Cynnig Cyfranddaliadau yn y gwanwyn