Bellach mae ein tyrbin gwynt cymunedol wedi cael ei gomisiynu ac mae’n cynhyrchu pŵer.
Diolch i bawb sydd wedi’n cefnogi ni ar y daith hon – o’n buddsoddwyr i’r timau gwych a fu’n rhan o’r gwaith adeiladu, a’r holl bobl leol ac aelodau a ddaeth draw i weld y tyrbin yn cael ei godi.
Roedd codi’r tyrbin ar Ffrwd Farm yn gamp beirianneg aruthrol a ddigwyddodd dros gyfnod o bum niwrnod ddechrau mis Hydref mewn tywydd heriol sy’n nodweddiadol o’r hydref yng Nghymru. Comisiynwyd y tyrbin ar 11eg Hydref ymhell cyn dyddiad cau’r Tariff Cyflenwi Trydan, sef 31ain Rhagfyr 2019 – sy’n golygu bod hwn yn un o’r prosiectau gwynt cymunedol olaf yn y Deyrnas Unedig i gael budd o’r cymhorthdal hwn gan y llywodraeth.
Gallwch weld lluniau o’r broses adeiladu gyfan yn ein horiel luniau.
Roedd digon o waith i’w wneud hefyd yn yr wythnosau blaenorol er mwyn paratoi’r safle cyn gosod y tyrbin. Gosodwyd sylfeini a thywallt y sail goncrid. Cwmni Green Cat o’r Alban oedd yn gyfrifol am y gwaith adeiladu.
Cafodd cydrannau mawr a thrwm iawn y tyrbin eu cludo yma o’r Iseldiroedd (lle bu gynt yn cynhyrchu pŵer ar fferm wynt sydd bellach yn cynhyrchu ynni â thyrbinau mwy o faint) ar bedair llong fferi, gan gyrraedd Harwich a Purfleet. Gwnaed saith taith ffordd gan gerbydau nwyddau trwm i gludo’r cydrannau i Ffrwd Farm, a rhan olaf y daith oedd lôn fferm y bu’n rhaid ei lledu, ei chryfhau ac ychwanegu 2km ati – gwaith enfawr a gyflawnwyd yn wych gan y cwmni lleol, D.G. Jones a’i Feibion.
Ar y safle, gosodwyd y cydrannau at ei gilydd gan dîm o beirianwyr cwmni F&B Windpower o’r Iseldiroedd, gan nad yw’r wybodaeth arbenigol hon ar gael yn y Deyrnas Unedig yn anffodus. Darparwyd craeniau i symud y gwahanol rannau i’w lle gan gwmni o Gymru, sef Davies Crane Hire o Gaerfyrddin.
Ar 5ed Hydref, gollyngwyd llafnau’r tyrbin i’w lle yn barod ar gyfer Cychwyn y Tyrbin, a oedd yn ddiwrnod cyffrous i bawb, yn enwedig i’r rhai a fu’n rhan o’r prosiect o’r dechrau. Daeth llawer o bobl, gan gynnwys cyfranddalwyr a’r gymuned leol, i wylio camau olaf y gwaith adeiladu.
Ers hynny, cafwyd ychydig o broblemau cychwynnol oedd yn golygu bod rhaid i’r tyrbin fod all-lein am gyfnod byr er mwyn eu datrys. Roeddem wedi rhagweld y problemau hyn, sy’n nodweddiadol mewn prosiectau o’r fath; mae popeth yn gweithio fel y dylai bellach.
Mae angen diolch i sawl un arall: i’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni am helpu i gael hyd i grantiau a benthyciadau, i Sharenergy am eu harweiniad a’u cymorth gyda’r cynnig cyfranddaliadau. Diolch i Second Wind Energy am gael hyd i’r tyrbin a goruchwylio’r gwaith o’i ddatgymalu a’i storio; byddan nhw’n parhau i’n helpu o ran gweithredu a chynnal a chadw. Diolch i Eddie o gwmni Bosman Inspecties a gysylltodd y tyrbin ar ôl ei godi a datrys y problemau cychwynnol. Rheolwyr y prosiect oedd Green Cat Renewables a’n contractwyr ar gyfer gweddill y gwaith oedd WindCare.