Bant a’r cart! Dros yr wythnosau nesaf mae Egni Cymunedol Grannell (ECG) yn hyrwyddo eu prosiect tyrbin gwynt newydd yn yr ardal leol, gan fod cyfranddaliadau’r prosiect nawr ar gael i’w prynu – y mwyaf o’i fath yng Ngheredigion.
Mynychodd Cadeirydd ECG, Elly Foster, Farchnad Bobl Llanbedr Pont Steffan yn Neuadd Fictoria ddydd Sadwrn 23 Mehefin i siarad â phobl leol a dosbarthu gwybodaeth am y Cynnig Cyfranddaliad. Meddai: “Rydyn ni wedi cael llawer o ddiddordeb yn y prosiect hyd yn hyn, ac rydyn ni’n rhoi gwybod i bawb fod y cyfranddaliadau nawr ar gael i’w prynu!”
I brynu cyfranddaliadau a dod yn aelod a chydberchennog yn y tyrbin gwynt, mae’n rhaid i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn. Gallwch wneud cais am rhwng £100 a £100,000 mewn cyfranddaliadau, a rhagwelir enillion blynyddol i aelodau o 5% ar gyfartaledd dros yr 20 mlynedd nesaf. Amcangyfrifir hefyd y bydd oddeutu £5,000 y flwyddyn yn mynd i mewn i gronfa gymunedol leol.
Caiff y tyrbin gwynt, sydd yn Enercon E48 500kW, ei adeiladu ger Cribyn, Llanbedr Pont Steffan. Bydd yn cynhyrchu tua 1700MWh o drydan y flwyddyn – yn ddigon ar gyfer tua 450 o gartrefi.
Bydd aelodau Egni Cymunedol Grannell hefyd yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 30 Mehefin i godi ymwybyddiaeth o’r prosiect a dosbarthu taflenni i’r rhai sydd â diddordeb. Am ragor o wybodaeth ac i brynu cyfranddaliadau ewch i www.grannellcoop.org.uk
Cefnogir Egni Cymunedol Grannell gan Sharenergy, a leolir yn yr Amwythig. Mae Sharenergy wedi cynorthwyo dros 30 o brosiectau ynni cymunedol ledled y DU, ac mae eu profiad helaeth yn cael ei ddefnyddio ar y prosiect yma.
Chwith – Dde: Dinah Mulholland yn derbyn y Ddogfen Cyfranddaliad gan Elly Foster, Cadeirydd Egni Cymunedol Grannell ym Marchnad y Bobl, Llanbedr Pont Steffan. Mae Dinah yn aelod o’r Blaid Lafur yng Ngheredigion ac yn gefnogwr enfawr o ECG a’r cysyniad o ynni cymunedol.