1 Mehefin 2018 – Mae Egni Cymunedol Grannell (ECG) heddiw yn cyhoeddi lansio ei chyfranddaliadau i’r cyhoedd. Dyma’r prosiect budd cymunedol cyntaf o’r maint yma yng Ngheredigion, ble bydd tyrbin gwynt 500kW yn cael ei adeiladu a chyfranddaliadau yn cael eu cynnig i’r cyhoedd.

Mae’r prosiect yn cael ei reoli gan Egni Cymunedol Grannell (ECG), ac mae cyfalaf y prosiect hyd yn hyn wedi dod o fenthyciadau tymor-byr gan Banc Datblygu Cymru a grant o Ynni Lleol. Bydd y benthyciad yn cael ei ail-ariannu drwy ddefnyddio’r arian a godir o’r cyfranddaliadau.

Mae ECG yn Gymdeithas Budd Cymunedol, sy’n golygu gall unrhyw un sydd yn 16 oed neu’n hŷn ddod yn aelod drwy brynu cyfranddaliadau a dod yn rhan-berchennogion ar dyrbin gwynt. Dyma’r tro cyntaf i’r cyhoedd cael y cyfle i brynu a pherchen cyfranddaliadau mewn prosiect ynni cymunedol lleol yma yn ardal Llanbedr Pont Steffan.

Gobeithir codi £700,000 drwy’r cynnig cyfranddaliadau yma i ariannu adeiladu’r tyrbin gwynt. Mae’r grŵp cymunedol yn gwahodd pobl o bell ac agos i brynu cyfranddaliadau a dod yn aelodau o’r prosiect.

Mae ECG yn awyddus iawn i bobl leol a’u teuluoedd gael y cynnig i brynu cyfranddaliadau, felly os ydych yn byw yng Ngheredigion, SA40 a SY23 cewch fuddsoddi lleiafswm o £100 neu fwy. Tu allan i’r ardaloedd yma rhaid i chi fuddsoddi lleiafswm o £250. Rhagwelir enillion blynyddol i aelodau o 5% ar gyfartaledd dros y 20 mlynedd nesaf. Bydd aelodau yn derbyn enillion ar eu buddsoddiad ar ôl nifer o flynyddoedd, a gofynir iddynt bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Bydd y prosiect yn creu cronfa gymunedol o £5,000 y flwyddyn a thrwy hyn yn cefnogi prosiectau lleol a dod a buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i lefydd fel Llanwnnen, Llanfihangel Ystrad a Llanbedr Pont Steffan.

Dywedodd Elly Foster, Cadeirydd Egni Cymunedol Grannell: “Mae wedi cymryd llawer o waith caled i ddod i’r sefyllfa yma ac rydym yn falch i gynnig cyfranddaliadau yn y tyrbin gwynt o’r diwedd. Y bwriad yw codi’r arian yma dros y misoedd nesaf a gobeithio cyrraedd ein targed a dechrau adeiladu cyn Nadolig 2018!”

Enercon E48 500kW ydi’r tyrbin gwynt a fydd yn cael ei adeiladu ar Fferm Ffrwd ger Cribyn, Llanbedr Pont Steffan. Mae gan y tyrbin gwynt dwr 50 metr a rhychwant llain 48 metr, a bydd y tyrbin gwynt yn cynhyrchu tua 1700 MWh o drydan y flwyddyn – yn ddigon ar gyfer tua 450 o gartrefi. Amcangyfrifir bydd y tyrbin gwynt yn rhwystro tua 600 tunnell o CO² rhag mynd i’r awyr bob blwyddyn.

Dywedodd Lindsay Thomas, Trysorydd Egni Cymunedol Grannell: “Mae hwn yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ynni adnewyddadwy, er bod buddiannau ariannol yn rhan o’r prosiect. Bydd aelodau sydd yn prynu cyfranddaliadau yn gwybod eu bod yn gwneud gwahaniaeth i genedlaethau i ddod, ac y cefnogi eu cymunedau lleol.”

Am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho copi o’r Ddogfen Cyfranddaliad ewch i’r wefan www.grannellcoop.org.uk

Cefnogir Egni Cymunedol Grannell gan Sharenergy, a leolir yn yr Amwythig, mae Sharenergy wedi cynorthwyo dros 30 o brosiectau ynni cymunedol ledled y DU, ac mae eu profiad helaeth yn cael ei ddefnyddio ar y prosiect yma.

Cfyle i chi gael Cyfranddaliadau Mewn Tyrbin Gwynt Cymunedol Newydd Ger Llanbedr Pont Steffan