Allech chi fod yn un o Gyfarwyddwyr Ynni Cymunedol Grannell?
Rydym ni’n chwilio am gyfarwyddwyr sydd ag amrywiaeth o gefndiroedd, profiadau a setiau sgiliau i ymuno â ni. Fyddech chi’n barod i roi o’ch amser a’ch ymroddiad? Ydych chi’n rhannu ein hangerdd ynghylch ynni adnewyddadwy a phrosiectau cymunedol? Mwy o wybodaeth yma.
Gwaith adeiladu’r tyrbin wedi’i gwblhau
Cafodd ein tyrbin gwynt cymunedol ar Ffrwd Farm, Llanwnnen, Ceredigion ei gomisiynu ar 11eg Hydref, ac mae bellach yn gweithio ac yn cynhyrchu ynni glân. Diolch yn fawr i’n buddsoddwyr ac i bawb arall sydd wedi helpu i wireddu’r prosiect cyffrous hwn.
Cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth:
Cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw helpu canolbarth Cymru i ddatblygu dyfodol ynni glân, lliniaru’r newid yn yr hinsawdd drwy osod dulliau cynhyrchu ynni adnewyddadwy, a gwneud hynny mewn modd teg a democrataidd drwy ledaenu’r berchnogaeth a’r buddion ar draws y gymuned yn hytrach na’u canoli yn nwylo nifer bach o bobl.
Mae Ynni Cymunedol Grannell yn Gymdeithas Budd Cymunedol, sy’n golygu y gall unrhyw un (16 oed a throsodd) ddod yn aelod drwy brynu cyfranddaliadau a dod yn rhan-berchennog ar dyrbin gwynt.
Cynnig cyfranddaliadau
Rydym ni am i lawer o bobl, ar draws Cymru, ar draws y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt i’r Deyrnas Unedig, brynu cyfranddaliadau i’n cefnogi. Drwy brynu cyfranddaliadau a dod yn aelod, byddwch chi’n helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn helpu i adeiladu cymunedau cryfach, mwy gwydn yng nghanolbarth Cymru; a byddwch chi’n derbyn cyfradd llog deg ar eich cyfranddaliadau. Gyda’n gilydd, mae gennym y pŵer i greu dyfodol cadarnhaol ar gyfer ein plant a’n hwyrion ac mae croeso mawr i chi ymuno â ni i wireddu hyn.
Cododd ein cynnig cyfranddaliadau blaenorol yn 2018 £368,406 gan 129 o aelodau i dalu am y gwaith o godi’r tyrbin gwynt. Byddwn ni’n lansio cynnig cyfranddaliadau newydd yng ngwanwyn 2020, gan obeithio y bydd llawer mwy o aelodau yn ymuno â ni.
Ymunwch â ni
I ddod yn gefnogwr neu’n aelod o Ynni Cymunedol Grannell a derbyn ein llythyrau newyddion, anfonwch neges e-bost at admin@sharenergy.coop