Ar ôl adeiladu ein tyrbin gwynt yn llwyddiannus yn hydref 2019, byddwn ni’n lansio cynnig cyfranddaliadau newydd yng ngwanwyn 2020 er mwyn rhoi cyfle arall i bobl leol a chefnogwyr ynni cymunedol fuddsoddi yn ein prosiect cyffrous.
Bydd hwn yn gyfle i chi:
- Fod yn berchen ar gyfranddaliadau mewn tyrbin gwynt cymunedol gweithredol, gan gyfrannu i ddyfodol sero-net y Deyrnas Unedig
- Chwarae rhan uniongyrchol yn y gwaith o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd
- Derbyn enillion teg ar eich buddsoddiad a rhoi eich barn ar weithrediad y prosiect
Pan fyddwn ni’n barod i lansio’r ail gynnig cyfranddaliadau, byddwch yn gallu lawrlwytho ein dogfen cynnig cyfranddaliadau yma.
Gallwch lawrlwytho dogfen ein cynnig cyfranddaliadau blaenorol yma.
Drwy brynu cyfranddaliadau byddwch yn dod yn aelod o Ynni Cymunedol Grannell Cyfyngedig, sy’n gymdeithas Budd Cymunedol.
Rydym ni’n rhagweld y bydd aelodau’n cael 5% o elw ar gyfartaledd ar eu cyfranddaliadau a bydd cronfa gymunedol o £5000 y flwyddyn i’r gymuned leol, ond darllenwch ein dogfen cynnig cyfranddaliadau i gael rhagor o fanylion.