Guy Hopwood

Ymgynghorydd ynni adnewyddadwy yw Guy Hopwood sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, ac sy’n byw yng Ngheredigion ers 1972. Bu Guy yn ymwneud â datblygu amrywiaeth o gynlluniau ynni adnewyddadwy ers 2010, gan gynnwys tyrbin gwynt 500kW yng Ngheredigion ac un arall yn Sir Gaerfyrddin, ac mae hefyd wedi buddsoddi mewn dau brosiect gwynt cymunedol yng Nghymru.
Ymunodd Guy â bwrdd GCE tua diwedd 2017 i roi cymorth ychwanegol i’r tri chyfarwyddwr sefydlu ac i geisio sicrhau bod gan Geredigion brosiect gwynt cymunedol llwyddiannus.

Leila Kiersch (Cadeirydd)

Ers amser maith, bu Leila Kiersch yn cefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy a chefnogi cymunedau gwledig. Symudodd i Gymru bron 20 mlynedd yn ôl i astudio, ac mae wedi magu ei theulu yma yn ogystal ag ymdrechu i ddysgu’r iaith a bod yn aelod defnyddiol o’r gymuned.
Yn ei gyrfa broffesiynol, bu’n gweithio yn y sector ynni gwynt, mewn ynni cymunedol, ac yn rheoli elusen leol. Daw â phrofiad helaeth i’r Bwrdd ac mae’n bwriadu chwarae rhan fawr i sicrhau llwyddiant y prosiect.

Lindsay Thomas (Trysorydd)

Symudodd Lindsay Thomas i Gymru dros 30 mlynedd yn ôl, a ganwyd a magwyd ei phedair merch yma, gan fynychu’r ysgolion lleol a symud ymlaen i’r brifysgol.
Bu’n gweithredu busnes cyhoeddi a gwasg fechan yng Ngheredigion yn flaenorol, ac yn datblygu’r swyddfa sirol i helpu teuluoedd gyda phlant ag anghenion ychwanegol, ond mae bellach yn hyrwyddo’r gornel unigryw a digyffwrdd hon o Gymru drwy ei bythynnod gwyliau. A hithau’n un o gyfarwyddwyr sefydlu GCE, mae hi’n benderfynol o wneud i hyn weithio, er lles yr amgylchedd, ei chymuned leol, a helpu gyda chyllido mentrau amgylcheddol lleol. Mae arni eisiau gweld mwy o brosiectau fel hyn yn dwyn ffrwyth, sef cynhyrchu ynni’n lleol i gymunedau lleol, gan ddiogelu adnoddau gwerthfawr i genedlaethau’r dyfodol.

Jane O’Brien

Bu Jane yn gweithio yn y sector cynaliadwyedd ers dros 25 mlynedd, mae ei sgiliau’n cynnwys troi syniadau yn brosiectau realistig ac mae hi’n mwynhau helpu grwpiau cymunedol i gyflawni eu nodau cynaliadwy. Ar hyn o bryd, mae Jane yn un o gydlynwyr Adfywio Cymru ac ers 2014 mae hi wedi gweithio gyda mwy na 30 o brosiectau yng nghyswllt cynllunio gweithredu a busnes, cyllid a phrosiectau ynni. Ymhlith y prosiectau hyn mae nifer o fentrau cymdeithasol ac adeiladau cymunedol, yn ymwneud â materion o ddatblygu tyrbinau gwynt i dyfu bwyd, iechyd a llesiant. Ym marn Jane, sydd â gradd MSc (Eng) mewn Ynni a Chadwraeth, mae effeithlonrwydd ynni wrth wraidd cynaliadwyedd, ac mae wedi bod yn flaengar mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy, a gwneud llawer o gynigion llwyddiannus am gyllid, gan gynnwys dyfarniad menter grid gwerth £2.45 miliwn. Mae hi hefyd yn gynghorydd ynni lleol i Ynni Sir Gâr. Swyddi Gwirfoddol: Cyfarwyddwr ar Grannell Community Energy a Community Energy Pembrokeshire.

Mae Jane a’i gŵr Martin yn berchen ar fusnes ecodwristiaeth bach, North Lodge Eco Holidays, sy’n cynnig gwersylla traddodiadol ac unedau hynod oddi ar y grid, gan gynnwys lori geffylau wedi’i haddasu. Ceir hyd iddynt yn harddwch Sir Benfro ar y ffin â Cheredigion, ger Aberteifi a dyffryn Teifi.

 

Brian Mark

Mae Brian, sy’n byw oddi ar y grid yn Llandudoch, ger Aberteifi, wedi ymddeol o fod yn beiriannydd gwasanaethau adeiladu masnachol. Ef oedd un o’r partneriaid a sefydlodd Fulcrum Consulting, cwmni ymgynghorwyr peirianneg gynaliadwy arbenigol a fu’n cyflogi 200+ o beirianwyr ar un adeg.

Mae Brian yn arbenigwr ar ddylunio dinasoedd ac adeiladau ynni isel, gan gynnwys cynlluniau cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol, integredig ac o ganlyniad gofynnwyd iddo wasanaethu ar y Bwrdd Cynghori ar Ynni Adnewyddadwy, gan gynghori’r llywodraeth ganolog ynghylch y dull gorau o gyflawni’r holl dargedau ynni adnewyddadwy cenedlaethol, rhai’r Undeb Ewropeaidd a rhai Protocol Kyoto.

Mae Brian yn credu’n gryf ym manteision perchnogaeth gymunedol ar asedau gan gynnwys cynhyrchu ynni, ac mae ganddo brofiad lleol o ddarparu cynlluniau perchenogaeth gymunedol yn llwyddiannus dros nifer o flynyddoedd fel un o gyfarwyddwyr 4CG (y sefydliad datblygu cymunedol hynod o lwyddiannus yn Aberteifi).

Cymdeithas Budd Cymunedol

Mae GCE yn Gymdeithas Budd Cymunedol. Mae hyn yn ffurf o Gymdeithas Gofrestredig sydd wedi ei chofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FSA).

Mae gan Gymdeithas Gofrestredig aelodau a bwrdd sydd yn cael ei ethol yn flynyddol mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gan yr aelodau.

Ein aelodau fydd pawb sydd wedi prynu cyfranddaliadau yn ein cymdeithas. Mae gennym fwrdd o gyfarwyddwyr sylfaenwyr sydd wedi sefydlu’r gymdeithas, ac fydd rhain yn rheoli hi trwy’r cyfnod adeiladu.

Mae’r gymdeithas yn cael ei rhedeg yn ôl set o reolau, sydd wedi eu cymeradwyo a’u cofrestru gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae’r rheolau hyn yn cwmpasu materion megis pwy all fod yn aelod, sut mae cyfarfodydd y bwrdd a chyfarfodydd cyffredinol yn cael eu rhedeg, pa gworwmau sydd eu hangen, faint o gyfarwyddwyr ddylai fod ar y bwrdd, ac yn y blaen.

Cronfa gymunedol

Fe fyddwn yn sefydlu cronfa gymunedol leol fydd yn anelu yn benodol at y bobl sydd yn byw agosaf at y tyrbin. Rydym wedi ymrwymo i roi cyfandaliad o £5,000 i mewn i’r gronfa yn flynyddol dros y 20 mlynedd nesaf (nes bydd y Tariff Bwydo i Mewn yn dod i ben). Bydd hyn yn gael ei dalu ar ymgynghoriad gyda’r cymuned leol.