{"id":1171,"date":"2019-12-03T18:13:26","date_gmt":"2019-12-03T18:13:26","guid":{"rendered":"https:\/\/grannellcoop-org-uk.stackstaging.com\/construction-complete\/"},"modified":"2025-03-24T14:51:39","modified_gmt":"2025-03-24T14:51:39","slug":"maer-gwaith-adeiladu-wedii-gwblhau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/grannellcoop.org.uk\/cy\/maer-gwaith-adeiladu-wedii-gwblhau\/","title":{"rendered":"Mae\u2019r gwaith adeiladu wedi\u2019i gwblhau!"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"512\" src=\"https:\/\/grannellcoop-org-uk.stackstaging.com\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/construction-complete.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1170\" srcset=\"https:\/\/grannellcoop.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/construction-complete.jpg 768w, https:\/\/grannellcoop.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/construction-complete-300x200.jpg 300w, https:\/\/grannellcoop.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/construction-complete-24x16.jpg 24w, https:\/\/grannellcoop.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/construction-complete-36x24.jpg 36w, https:\/\/grannellcoop.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/construction-complete-48x32.jpg 48w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bellach mae ein tyrbin gwynt cymunedol wedi cael ei gomisiynu ac mae\u2019n cynhyrchu p\u0175er.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Diolch i bawb sydd wedi\u2019n cefnogi ni ar y daith hon \u2013 o\u2019n buddsoddwyr i\u2019r timau gwych a fu\u2019n rhan o\u2019r gwaith adeiladu, a\u2019r holl bobl leol ac aelodau a ddaeth draw i weld y tyrbin yn cael ei godi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd codi\u2019r tyrbin ar Ffrwd Farm yn gamp beirianneg aruthrol a ddigwyddodd dros gyfnod o bum niwrnod ddechrau mis Hydref mewn tywydd heriol sy\u2019n nodweddiadol o\u2019r hydref yng Nghymru. Comisiynwyd y tyrbin ar 11<sup>eg<\/sup>&nbsp;Hydref ymhell cyn dyddiad cau\u2019r Tariff Cyflenwi Trydan, sef 31<sup>ain<\/sup>&nbsp;Rhagfyr 2019 \u2013 sy\u2019n golygu bod hwn yn un o\u2019r prosiectau gwynt cymunedol olaf yn y Deyrnas Unedig i gael budd o\u2019r cymhorthdal hwn gan y llywodraeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch weld lluniau o\u2019r broses adeiladu gyfan yn ein horiel luniau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd digon o waith i\u2019w wneud hefyd yn yr wythnosau blaenorol er mwyn paratoi\u2019r safle cyn gosod y tyrbin. Gosodwyd sylfeini a thywallt y sail goncrid. Cwmni&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.greencatcontracting.co.uk\/index.html\">Green Cat<\/a>&nbsp;o\u2019r Alban oedd yn gyfrifol am y gwaith adeiladu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cafodd cydrannau mawr a thrwm iawn y tyrbin eu cludo yma o\u2019r Iseldiroedd (lle bu gynt yn cynhyrchu p\u0175er ar fferm wynt sydd bellach yn cynhyrchu ynni \u00e2 thyrbinau mwy o faint) ar bedair llong fferi, gan gyrraedd Harwich a Purfleet. Gwnaed saith taith ffordd gan gerbydau nwyddau trwm i gludo\u2019r cydrannau i Ffrwd Farm, a rhan olaf y daith oedd l\u00f4n fferm y bu\u2019n rhaid ei lledu, ei chryfhau ac ychwanegu 2km ati \u2013 gwaith enfawr a gyflawnwyd yn wych gan y cwmni lleol, D.G. Jones a\u2019i Feibion.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar y safle, gosodwyd y cydrannau at ei gilydd gan d\u00eem o beirianwyr cwmni<a href=\"https:\/\/fenbwindpower.nl\/en\/\">&nbsp;F&amp;B Windpower<\/a>&nbsp;o\u2019r Iseldiroedd, gan nad yw\u2019r wybodaeth arbenigol hon ar gael yn y Deyrnas Unedig yn anffodus. Darparwyd craeniau i symud y gwahanol rannau i\u2019w lle gan gwmni o Gymru, sef&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.daviescranehire.co.uk\/\">Davies Crane Hire&nbsp;<\/a>o Gaerfyrddin.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar 5<sup>ed<\/sup>&nbsp;Hydref, gollyngwyd llafnau\u2019r tyrbin i\u2019w lle yn barod ar gyfer Cychwyn y Tyrbin, a oedd yn ddiwrnod cyffrous i bawb, yn enwedig i\u2019r rhai a fu\u2019n rhan o\u2019r prosiect o\u2019r dechrau. Daeth llawer o bobl, gan gynnwys cyfranddalwyr a\u2019r gymuned leol, i wylio camau olaf y gwaith adeiladu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ers hynny, cafwyd ychydig o broblemau cychwynnol oedd yn golygu bod rhaid i\u2019r tyrbin fod all-lein am gyfnod byr er mwyn eu datrys. Roeddem wedi rhagweld y problemau hyn, sy\u2019n nodweddiadol mewn prosiectau o\u2019r fath; mae popeth yn gweithio fel y dylai bellach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae angen diolch i sawl un arall: i\u2019r&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.energysavingtrust.org.uk\/\">Ymddiriedolaeth Arbed Ynni<\/a>&nbsp;am helpu i gael hyd i grantiau a benthyciadau, i&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.sharenergy.coop\/\">Sharenergy<\/a>&nbsp;am eu harweiniad a\u2019u cymorth gyda\u2019r cynnig cyfranddaliadau. Diolch i Second Wind Energy am gael hyd i\u2019r tyrbin a goruchwylio\u2019r gwaith o\u2019i ddatgymalu a\u2019i storio; byddan nhw\u2019n parhau i\u2019n helpu o ran gweithredu a chynnal a chadw. Diolch i Eddie o gwmni&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.bosmaninspecties.nl\/eng\/main.php\">Bosman Inspecties<\/a>&nbsp;a gysylltodd y tyrbin ar \u00f4l ei godi a datrys y problemau cychwynnol. Rheolwyr y prosiect oedd Green Cat Renewables a\u2019n contractwyr ar gyfer gweddill y gwaith oedd&nbsp;<a href=\"http:\/\/windcare.co.uk\/\">WindCare<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bellach mae ein tyrbin gwynt cymunedol wedi cael ei gomisiynu ac mae\u2019n cynhyrchu p\u0175er. Diolch i bawb sydd wedi\u2019n cefnogi ni ar y daith hon \u2013 o\u2019n buddsoddwyr i\u2019r timau gwych a fu\u2019n rhan o\u2019r gwaith adeiladu, a\u2019r holl bobl leol ac aelodau a ddaeth draw i weld y tyrbin yn cael ei godi. Roedd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1170,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"pgc_sgb_lightbox_settings":"","footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-1171","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/grannellcoop.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1171","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/grannellcoop.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/grannellcoop.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/grannellcoop.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/grannellcoop.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1171"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/grannellcoop.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1171\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1455,"href":"https:\/\/grannellcoop.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1171\/revisions\/1455"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/grannellcoop.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1170"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/grannellcoop.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1171"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/grannellcoop.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1171"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/grannellcoop.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1171"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}