Mae Ynni Cymunedol Grannell (Grannell) wedi cyhoeddi ei fod wedi codi £156,873 o’r £700,000 sydd ei angen i adeiladu tyrbin gwynt 500kW ger Llanbedr Pont Steffan.

Mae swm mawr o’r arian hwn wedi’i fuddsoddi gan y teulu Bodsworth o Langeitho ger Tregaron. Mae’r teulu wedi buddsoddi cyfanswm o £40,000 o’u harian eu hunain i’r prosiect, sef un o ddim ond dau brosiect ynni gwynt a arweinir gan y gymuned sydd ar gael yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.

Symudodd Mr David Bodsworth gyda’i wraig a’i fam i’r ardal yn 2011 o Berkshire. Ar ôl prynu coetir lleol ac yna fferm yn yr un ardal yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, roeddent yn edrych ar ffyrdd eraill o gyfrannu at eu cymuned leol.

Wedi ymddeol, ac yn 60 oed, mae’n esbonio: “Ar ôl gyrfa hir yn y diwydiant olew a petrocemegol a gweld yr angen am ffynonellau ynni amgen, roeddwn yn awyddus i fuddsoddi a bod yn rhan o’r sector ynni adnewyddadwy. Fel teulu, roeddem hefyd eisiau bod yn rhan o’r gymuned leol a chyfrannu pa bynnag ffordd y gallem ni i brosiectau lleol. Roedd y prosiect Grannell yn ymddangos yn berffaith gyda chydbwysedd perffaith i’n hanghenion. ”

Ychwanegodd: “Wrth i olew fynd yn fwy prin, mae dod o hyd i ffynonellau olew amgen yn anochel ac yn cael mwy o effaith amgylcheddol, golyga hyn bod yr amser wedi dod i edrych ar ffynonellau ynni cynaliadwy os ydym am gadw’r goleuadau ymlaen yn y dyfodol! Rwy’n credu ein bod ni’n gymdeithas gwastraffus, ac mae angen i ni newid y ffordd yr ydym yn byw ac yn ymddwyn. Rwy’n credu mai defnyddio a buddsoddi mewn ynni gwyrdd yw’r ffordd ymlaen.”

Hyd yn hyn, mae Grannell wedi codi £156,873 o’r £700,000 y mae angen iddo ariannu adeiladu tyrbin gwynt 50 metr o uchder ger Llanbedr Pont Steffan. Os codir y swm cyfan erbyn 14 Rhagfyr eleni, mae Grannell yn gobeithio dechrau adeiladu’r tyrbin gwynt, gyda’r nod o’i gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2019.

Dywedodd Leila Sharland, Cadeirydd Ynni Cymunedol Grannell: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Bodsworth a’i deulu am fuddsoddi yn y prosiect. Mae eu cyfraniad wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’n targed. Wrth gwrs, mae angen mwy o bobl arnom i brynu cyfranddaliadau ac i gyrraedd ein targed, felly cofiwch gysylltu os ydych chi am fod yn rhan o brosiect adnewyddadwy unigryw.”

Mae Grannell wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu’r tyrbin gwynt ar dir fferm ger Cribyn, Llanbedr Pont Steffan. Bydd y tyrbin gwynt yn sefyll ar dwr 50 metr gyda rhychwant llafn 48 metr. Disgwylir iddo gynhyrchu tua 1700 MWh o drydan y flwyddyn, sy’n ddigon i tua 446 o gartrefi.

Os hoffech brynu cyfranddaliadau i’r prosiect hwn, e-bostiwch info@grannellcoop.org.uk , ffoniwch 01743 835242 neu ewch i’r wefan www.grannellcoop.org.uk.

Cefnogir Ynni Cymunedol Grannell gan Sharenergy, Amwythig. Mae Sharenergy wedi cynorthwyo dros 30 o brosiectau ynni cymunedol ar draws y DU, a defnyddir eu profiad helaeth ar y prosiect yma.

Yn ychwanegol , cefnogir y prosiect gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi sectorau ynni cyhoeddus a chymunedol yng Nghymru i ddatblygu prosiectau ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy.

BUDDSODDIAD O £40,000 GAN DEULU LLEOL I BROSIECT YNNI CYMUNEDOL GER LLAMBED