Yn unol â’r ddarpariaeth i’r Cynnig o Gyfranddaliadau, penderfynodd Cyfarwyddwyr Ynni Cymunedol Grannell ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyfranddaliadau i 14 Rhagfyr 2018.

Cymerwyd y penderfyniad i ymestyn y dyddiad cau ar ôl ystyried y ffaith bydd yna tua 12 mis ar ôl i orffen y gwaith gosod i’r prosiect cyn y dyddiad cau Tariff Cyflenwi Trydan.

Mae nifer o’r cyfranddaliadau a brynwyd gan fuddsoddwyr yn parhau i gynyddu a dyma’r prif ffocws i godi arian, gan y bydd hyn yn sicrhau cyfranogiad a rheolaeth gan y gymuned, a darparu elw da i fuddsoddwyr. Mae’r prosiect hefyd yn archwilio posibiliadau cyllid amgen, gan gynnwys prynu cyfranddaliadau gan sefydliadau.

Esboniodd Leila Kiersch, Cadeirydd Ynni Cymunedol Grannell: “Gosodwyd i’n hunain targed uchel o wyth wythnos i gyrraedd, er yn falch o wneud cynnydd da, nid yw’r swm a godwyd hyd yn hyn yn ddigonol eto i ni fedru symud ymlaen.”

Ychwanegodd: “Hoffwn roi sicrwydd i fuddsoddwyr bod yr arian yn cael ei gadw i’r ochr ac ni fydd yn cael ei wario nes ein bod mewn sefyllfa i gadarnhau y gall y prosiect fynd yn ei flaen. Rydym yn parhau’n gwbl ymrwymedig i ddychwelyd yr holl arian i’n buddsoddwyr, os daw’n amlwg na fyddwn yn gallu codi’r cyllid digonol.”

Mae’r tîm yn gweithio’n galed ar ymgyrch farchnata newydd, gyda diweddariad i’r wefan, ynghyd â mynychu digwyddiadau lleol, anfon datganiadau i’r wasg a chyfryngau cymdeithasol a thargedu hysbysebu cenedlaethol. Bydd y prosiect hefyd yn targedu cefnogwyr hirdymor i brosiectau ynni cymunedol eraill, gan fod y toriadau i’r cynllun Tariff Cyflenwi Trydan yn ei gwneud yn anodd iawn i brosiectau newydd fod yn ymarferol. O ganlyniad, bydd y prosiect hwn o ynni gwyrdd cymunedol yn un o’r rhai olaf y gall y cyhoedd fuddsoddi ynddi, hyd nes y bydd newidiadau i’r polisi gan y llywodraeth.

Ychwanegodd Leila: “Rydym wedi codi bron i £140,000 hyd yn hyn ond mae gennym rywfaint o ffordd i fynd eto, os ydych yn adnabod rhywun a fyddai â diddordeb mewn prynu cyfranddaliadau, gofynnwch iddynt ystyried cefnogi’r prosiect hwn a chymryd rhan.”

Nòd Ynni Cymunedol Grannell yw cyflwyno prosiect sy’n gallu dod â’r gymuned at ei gilydd, cynhyrchu ynni gwyrdd yng nghefn gwlad Cymru, a chynnig elw teg i gefnogwyr, am eu buddsoddiad a’u hymddiriedaeth, a hyn oll hefyd yn cynnig cronfa gymunedol i gefnogi prosiectau lleol yn yr ardal.

Os hoffech brynu cyfranddaliadau i’r prosiect hwn, e-bostiwch info@grannellcoop.org.uk , ffoniwch 01743 835242 neu ewch i’r wefan www.grannellcoop.org.uk/cy/hafan/.

Cefnogir Ynni Cymunedol Grannell gan Sharenergy, Amwythig. Mae Sharenergy wedi cynorthwyo dros 30 o brosiectau ynni cymunedol ar draws y DU, a defnyddir ei brofiad helaeth ar y prosiect yma.

Yn ychwanegol i hyn, cefnogi’r prosiect hwn gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi sectorau ynni cyhoeddus a chymunedol yng Nghymru i ddatblygu prosiectau ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy.

MAE YNNI CYMUNEDOL GRANNELL YN YMESTYN EI GYNNIG O GYFRANDDALIADAU